Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Darllen i gael meddwl iach


Summary (optional)
Mae darllen yn helpu i annog ymlacio, lleihau lefelau straen, ac yn ein galluogi i ddeall mwy am ein hunain ac eraill.
start content

Mae gennym ystod eang o lyfrau ffeithiol, nofelau a barddoniaeth i ysbrydoli, addysgu, lleddfu neu godi hwyliau.

Gwybodaeth Iechyd a Lles Macmillan yn Llyfrgell Llanrwst

Mae Canolfan Lles Macmillan wedi ei sefydlu yn y llyfrgell gydag ystod o wybodaeth sy'n ymwneud â chanser a salwch cronig eraill. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnwys gwybodaeth ehangach am iechyd ochr yn ochr â ffuglen a barddoniaeth gadarnhaol i godi hwyliau.

Cynllun Llyfrau ar Bresgripsiwn i Oedolion

Mae ystod o lyfrau hunangymorth ar gael o'n holl lyfrgelloedd i helpu gyda chyflyrau fel:

  • pryder
  • iselder
  • anhwylderau bwyta
  • profedigaeth
  • dementia
  • hunanhyder isel

Llyfrau ar Bresgripsiwn Cymru - rhestr lyfrau

Llyfrau Llesol (Cymru)

Mae gennym amrywiaeth o lyfrau hunangymorth ar gael yn ein llyfrgelloedd i blant a phobl ifanc i'w helpu i ymdrin â materion emosiynol ac i roi arweiniad ychwanegol. Mae gennym hefyd lyfrau i helpu i arwain rhieni a gwarcheidwaid.

Mae'r llyfrau yn cynnwys pynciau fel:

  • profedigaeth
  • ysgariad
  • bwlio
  • hunanhyder isel
  • iselder
  • glasoed
  • dicter

Llyfrau Llesol Cymru - rhestr llyfrau

Cynllun ‘Make Friends with a Book’

Yn seiliedig ar fodel darllen ar y cyd Sefydliad Reader, ymunwch â ni bob wythnos i rannu stori fer a cherdd mewn lleoliad hamddenol ac anffurfiol. Gallwch wrando a mwynhau neu gael cyfle i ddarllen. Lluniaeth ar gael.  Mae'n gyfle gwych i ddarganfod mwy am eich hun ac eraill drwy'r profiad o rannu llenyddiaeth wych. Yn rhad ac am ddim. Llyfrgell Llanrwst bob dydd Llun 3.30 - 5pm.

Mood Boosting Books

Mae'r cynllun ‘Mood-boosting Books’ gan Reading Well yn hyrwyddiad cenedlaethol o deitlau sy’n codi hwyliau, gan gynnwys nofelau, barddoniaeth a llyfrau ffeithiol. Mae'r llyfrau yn cael eu hargymell gan ddarllenwyr a grwpiau darllen o amgylch y wlad.

Reading Well Mood-boosting Books - rhestr lyfrau

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content