Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pont y Soldiwr: Ymgynghoriad croesi'r afon


Summary (optional)
Rhannwch eich barn â ni ynglŷn â’r dewisiadau teithio llesol arfaethedig ar gyfer croesi’r afon ym Mhont y Soldiwr, Betws-y-Coed.
start content

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar 30 Tachwedd 2023.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi sicrhau cyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU ar gyfer llwybr teithio llesol rhwng Betws-y-coed a Llanrwst.  Mae’r prosiect hwn yn cynnwys croesfan newydd dros Afon Conwy, yn yr un lle â Phont y Soldiwr.

levelup-logos-nc

Beth yw teithio llesol?

Mae teithio llesol yn golygu gwneud siwrneiau bob dydd drwy gerdded, beicio neu fynd ar olwynion yn hytrach na defnyddio cludiant fel car neu fws.  (Mae mynd ar olwynion yn cynnwys defnyddio sgwter symudedd neu gadair olwyn.)

Mae’n fenter gan Lywodraeth Cymru i annog teithio iachach a lleihau tagfeydd traffig.

Mae teithio llesol yn cynnwys siwrneiau i’r gwaith, ysgol, coleg, siopau a chyfleusterau hamdden.  Mae’n rhaid i lwybr teithio llesol gysylltu â’r mannau hyn a bod yn addas ar gyfer siwrneiau bob dydd.  Nid yw teithio llesol yn cynnwys llwybrau a ddefnyddir ar gyfer hamdden neu i fynd am dro yn unig.

Wrth uwchraddio a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd rydym yn anelu i wneud teithio llesol y ffordd arferol ar gyfer siwrneiau lleol.  Mae hyn yn lleihau traffig diangen ac yn cynorthwyo teuluoedd i deithio’n ddiogel ac mewn modd cynaliadwy.

Er mwyn cael pethau’n iawn, mae’n hollbwysig bod pobl leol yn rhan o’r sgwrs.  Mae hyn er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn teimlo eu bod yn gallu cerdded, beicio neu fynd ar olwynion, yn hytrach na defnyddio’r car ar gyfer siwrneiau byr yn lleol.

Ynglŷn â'r prosiect 

Mae Pont y Soldiwr ar gau ar hyn o bryd ar sail diogelwch - mae angen gosod estyll pren, estyll cynnal, prif geblau crog a thyrau newydd.

Rydym wedi bod yn gweithio ar ddewisiadau dylunio ar gyfer pont newydd o safonau modern, a fyddai’n hygyrch i bawb, yn addas ac yn ddigon llydan i gerddwyr, beicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, pramiau a sgwteri symudedd.

Cyn i ni symud ymlaen â dyluniad terfynol a chais cynllunio, hoffem rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi ynglŷn â’r gwaith rydym wedi’i gwblhau hyd yma.  Rydym yn rhannu’r dyluniadau a’r delweddau ac yn gofyn am farn y gymuned ar y cynigion am bont newydd.

Mae’r prosiect hwn hefyd yn cynnwys gwella’r llwybrau y naill ochr i’r bont, i Ffordd Hen Eglwys a’r A470.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllunio’r llwybr ymlaen i Lanrwst, a byddwn yn cynnal rhagor o sesiynau ymgynghori unwaith y bydd y dyluniadau wedi’u cwblhau.

Beth yw'r materion?

Er mwyn gwneud Pont y Soldiwr yn ddiogel, mae angen tynnu ac ailadeiladu'r bont gyfan, neu ei disodli.

Mae yna eisoes lwybr hawl tramwy cyhoeddus sy’n cysylltu Ffordd Hen Eglwys â’r A470.  Nid yw’r llwybr yn bodloni’r safonau teithio llesol. Mae rhai rhannau’n serth iawn ac yn anodd i bob defnyddiwr eu defnyddio.

Bydd y cynllun hwn yn darparu llwybr teithio llesol gwell rhwng Ffordd Hen Eglwys a’r A470, gan gynnwys pont newydd ar gyfer croesi, wedi’i chynllunio i gyd-fynd â’r safonau dylunio teithio llesol presennol.

Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys

  • Pont newydd ar gyfer croesi
  • Llwybrau a rennir lletach ar gyfer yr holl ddefnyddwyr teithio llesol
  • Strwythur rampiau newydd ar yr ochr ddwyreiniol, lle mae’n ymuno â’r A470
  • Cyffordd teithio llesol newydd ar gyfer yr A470

Dewisiadau

Dewis 1:  Pont grog newydd i ddisodli Pont y Soldiwr

  • Tynnu Pont y Soldiwr
  • Cydymffurfio â theithio llesol

Amcangyfrif cost:  £3m

Rhychwant:  50m
Lled clir:  3.5m
Uchder tŵr:  9m

 

Dewis 2:  Pont drawst newydd i fyny'r afon o Bont y Soldiwr

  • Pont y Soldiwr yn aros yn ei lle ac angen ei hailadeiladu

Amcangyfrif cost:  £2m (pont newydd yn unig)
Adnewyddu/ailadeiladu Pont y Soldiwr:  dim o fewn amrediad presennol grant Cronfa Ffyniant Bro

Rhychwant:  60m
Lled clir:  3.5m
Uchder paraped uwchlaw’r dec:  1.4m

 

Dewis 3:  Pont drawst newydd i ddisodli Pont y Soldiwr

  • Newid Pont y Soldiwr i bont drawst

Amcangyfrif cost:  £2m

Rhychwant:  60m
Lled clir:  3.5m
Uchder paraped uwchlaw’r dec:  1.4m

 

Gwerthuso dewis

Dewis 1:  Pont grog newydd

Manteision

  • Un bont i’w chynnal yn y dyfodol
  • Dyluniad cain

Anfanteision

  • Risg adeiladu

Dewis 2:  Pont drawst newydd;  adnewyddu Pont y Soldiwr

Manteision

  • Risg adeiladu isel
  • Cynnal strwythur hanesyddol

Anfanteision

  • Dim cyllideb i adnewyddu Pont y Soldiwr 
  • Costau cynnal a chadw uchel yn y dyfodol

Dewis 3:  Pont drawst newydd i ddisodli Pont y Soldiwr

Manteision

  • Cost lleiaf
  • Risg lleiaf
  • Cynnal a chadw lleiaf

Anfanteision

  • Dyluniad ymarfero

Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwn yn ystyried a dadansoddi’r holl adborth a gawn i’r ymgynghoriad hwn yn ofalus. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth i’r cyhoedd ar y dewis terfynol cyn i ni wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Rydym yn gobeithio dechrau ar y gwaith adeiladu tua dechrau 2025, a chwblhau’r gwaith tua diwedd y flwyddyn honno.

 

Dewisiadau hygyrch:

Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille.  Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.

Gallwn hefyd ddisgrifio’r llwybr ar lafar dros y ffôn. Mae gennym swyddog sy’n siarad Cymraeg a swyddog sy’n siarad Saesneg ar gael.

Gall preswylwyr ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog.  Os nad oes swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content