Gallwch dalu am barcio ymlaen llaw drwy gysylltu â’r Gwasanaethau Parcio. Neu gallwch dalu dros y ffôn yn uniongyrchol i’r Gwasanaethau Parcio yn ystod oriau swyddfa.
Yn ddefnyddiwr rheolaidd?
Maes Parcio Coetsis Bae Colwyn (PDF)
Maes Parcio Coetsis Conwy (PDF)
Maes Parcio Coetsis Betws-y-coed (PDF)
Maes Parcio Coetsis Llandudno (PDF)
Tref | Mannau | Pris y dydd | Cyfarwyddiadau a Gwybodaeth |
Betws-y-coed: Stryd yr Orsaf
|
10
|
Am ddim
|
Trowch i'r dde oddi ar Ffordd Caergybi i Stryd yr Orsaf. Mae’r safle gollwng a chodi teithwyr ger yr arcêd siopa.
|
Bae Colwyn: Parc Eirias
|
6
|
Am ddim
|
Trowch i'r dde oddi ar yr A547 Ffordd Abergele i brif fynedfa Parc Eirias.
|
Conwy: Vicarage Gardens
|
-
|
- |
Mae dau fan ger maes parcio Vicarage Gardens ar Rosehill Street i goetsis ollwng a chodi teithwyr. Ni chaniateir aros yno am fwy na 15 munud.
I barcio am gyfnod hirach, trowch i'r chwith yn y ylchfan fach ger ochr y Castell ar y B5106 Ffordd Llanrwst, a dilynwch yr arwyddion am faes parcio Morfa Bach. Mae bwa’r Castell yn rhwystro coetsis uchel rhag mynd oddi tani, ond gall y cerbydau hyn barcio ym Maes Parcio Coetsis Builder Street West yn Llandudno.
|
Conwy: Morfa Bach
|
5
|
£6.50 am hyd at 4 awr
£12.50 am hyd at 24 awr
|
Mae talu am barcio ym Morfa Bach hefyd yn gadael i chi barcio ym Maes Parcio Coetsis Builder Street West yn Llandudno. Cadwch eich tocyn fel prawf o’ch taliad.
|
Llandudno: Mostyn Broadway
|
-
|
£6.50 am hyd at 4 awr
|
Dim ond gollwng a chodi teithwyr y mae coetsis yn cael ei wneud ym maes parcio coetsis Mostyn Broadway.
Mae parcio am gyfnod byr a chyfnod hir ar gael ym maes parcio coetsis Builder Street.
|
Llandudno: Builder Street DDIM AR GAEL AR HYN O BRYD
|
Hyd at 120
|
£6.50 am hyd at 4 awr
£12.50 am hyd at 24 awr
|
Mae yna ffensys terfyn allanol o gwmpas maes parcio coetsis Builder Street a chynhelir patrolau rheolaidd yno yn ystod y nos. Mae camera teledu cylch cyfyng wedi’i osod i adnabod coetsis sy'n mynd i mewn ac allan o’r maes parcio. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys toiledau a lle golchi coetsis.
Mae talu am barcio yn Builder Street hefyd yn gadael i chi barcio ym Morfa Bach Conwy. Cadwch y tocyn fel prawf o’ch taliad.
|