Beth yw parcio trigolion?
Mae cynlluniau parcio trigolion wedi’u cynllunio i flaenoriaethu gofodau parcio ar y stryd i drigolion lleol, yn arbennig lle maent yn cael trafferthion parcio ger eu cartrefi. Bwriad y cynlluniau yw atal pobl sydd ddim yn drigolion megis cymudwyr a siopwyr rhag parcio ar strydoedd preswyl. Byddai’n rhaid i drigolion brynu ac arddangos trwydded sydd yn eu caniatau i barcio ar y stryd o fewn parth parcio dynodedig.
Mae cymorth cychwynnol gan drigolion yn hanfodol - rydym angen o leiaf 40% o aelwydydd i ymateb i’n cynigion a rhaid i 75% o’r rheiny fod o blaid cyflwyno cynllun parcio trigolion.
Pam fod y Cyngor yn cynnig cynllun yn fy ardal?
Mae’r Cyngor yn ceisio gwneud y defnydd orau o’r gofod ffordd sydd ar gael er budd cyffredinol trigolion lleol. Mae pwysau presennol a rhai newydd yn ein trefi ac mae hwn yn ddull i reoli parcio, osgoi rhwystrau (yn arbennig i gerddwyr a gwella diogelwch ffyrdd ar gyffyrdd.)
Sut mae’r cynllun parcio i drigolion yn gweithio?
Mae’r cynllun parcio i drigolion wedi’i ddylunio i flaenoriaethu gofodau parcio ar y stryd i drigolion lleol.
Rydym yn awgrymu bod y cynlluniau yn gweithredu rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, rhwng 8am a 6pm i atal problem parcio cymudwyr, ond mae hwn yn hyblyg ac yn un o’r materion yr hoffem eich safbwyntiau arno.
Hefyd rydym yn awgrymu bod baeau parcio aros cyfyngedig i ganiatau ar gyfer ymwelwyr achlysurol. Gall trigolion brynu trwyddedau ymweld-dydd ar gyfer ymwelwyr cynllunedig sydd angen parcio am amser hirach. Bydd eithriadau penodol yn berthnasol i feddygon ac unrhyw ddarparwyr meddygol neu ofal cymdeithasol, a bydd pob achos yn cael ei asesu.
Bydd arwyddion a marciau ffordd yn cael eu defnyddio i ddangos ardaloedd lle gall drigolion barcio.
Os yw eich stryd wedi’i gynnwys mewn parth parcio i drigolion ac nad oes gennych le parcio oddi ar y stryd, bydd arnoch angen prynu trwydded i’ch caniatau i barcio eich car o fewn eich parth.
Mae trwyddedau’n costio £83 ar hyn o bryd am flwyddyn ar gyfer y drwydded gyntaf, £60 am yr ail drwydded, yn amodol ar y galw. Bydd yr arian a wneir drwy werthu’r trwyddedau yn cael ei ddefnyddio i ddarparu a chynnal arwyddion a llinellau, i ddarparu prosesau gorfodaeth a chosb, ac i weinyddu’r cynllun.
Mae’r drwydded yn cael ei roi i aelwyd y trigolion ei defnyddio a ni ellir ei throsglwyddo. Mae’n rhaid i’r ceisydd trwydded barcio i drigolion fyw mewn cyfeiriad o fewn ffin y cynllun. I gadarnhau bod ymgeisydd yn byw yn y cyfeiriad hwnnw byddwn yn gwirio’r manylion a ddarparwyd yn erbyn y gofrestr etholwyr lawn. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am ragor o dystiolaeth os nad yw’r enw/cyfeiriad yn cyd-fynd â’r wybodaeth sydd gennym ni.
Y drwydded:
- Wrth barcio, mae’n rhaid gosod y drwydded mewn man amlwg ar y sgrin flaen, gan wneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth yn weladwy o’r tu allan. Mae’n drosedd peidio ag arddangos eich trwydded, ac efallai byddwch yn atebol i gael Rhybudd Talu Cosb.
- Gellir ond ei defnyddio o fewn ffin y cynllun, ac mae’n eich caniatau i aros mwy na’r cyfyngiadau aros heb gael cosb. Ni chewch ddefnyddio’r drwydded mewn unrhyw ffordd arall na maes parcio arall o fewn sir Conwy.
- Nid yw’n gwarantu y cewch chi le i barcio nac yn golygu bod gennych chi hawl i fan parcio penodol. Nid oes modd cadw mannau parcio ac nid yw mannau parcio yn cael eu dyrannu i dai penodol. Bydd y drwydded yn rhoi blaenoriaeth i chi barcio yn eich stryd neu’r strydoedd cyfagos sydd yn eich parth.