Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bathodyn Glas


Summary (optional)
Trefniant cenedlaethol yw'r Cynllun Bathodyn Glas sy'n rhoi hawliau/gostyngiadau parcio i bobl sydd ag anawsterau cerdded difrifol, boed os ydynt yn yrwyr neu'n deithwyr. Mae hyn yn helpu pobl sydd â bathodynnau i fyw eu bywydau yn y ffordd arferol trwy hwyluso symud a theithio o amgylch y lle.
start slider

end slider
start grid

Statws:  Ceisiadau Bathodyn Glas

Ceisiadau o dan y meini prawf awtomatig:  Ar hyn o bryd, gall gymryd hyd at 42 diwrnod i ni brosesu ceisiadau am Fathodyn Glas a fyddai’n gymwys o dan y meini prawf awtomatig, os bydd yr holl dystiolaeth, lluniau a dulliau adnabod wedi eu cynnwys. 

Ceisiadau o dan y meini prawf dewisol:  Os yw’r cais “angen asesiad pellach” yna gallai hyn gymryd llawer mwy o amser a hyd at 12 wythnos mewn rhai achosion, yn dibynnu ar lefel yr asesu sydd ei angen.


I leihau'r posibilrwydd o oedi pellach dylech gynnwys tystiolaeth, lluniau a dulliau adnabod gyda’ch cais.

Peidiwch â chysylltu â ni tan ar ôl 42 diwrnod ar gyfer ceisiadau awtomatig a 12 wythnos ar gyfer y rhai sydd angen asesiad pellach.

Gan nad yw’r Cyngor bellach yn anfon nodiadau atgoffa ar gyfer adnewyddu Bathodyn Glas byddem yn argymell gwneud bob cais i adnewyddu o leiaf 12 wythnos cyn dyddiad terfyn y bathodyn.

Diolch i chi am eich amynedd.


end grid

start grid-more

end grid-more
end grid