Mae'r rheoliadau ynghylch symud llwythi annormal yn cael eu cynnwys yn Offeryn Statudol 2003 y Llywodraeth, rhif 1998 – Gorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) 2003.
Mae llwyth annormal yn gerbyd:
- Llwyth echel o fwy na 10,000 cilogram ar gyfer echel sengl nad ydyw'n gyrru a 11,500 cilogram ar gyfer echel gyrru sengl
- Mwy na 2.9 metr o led
- Yn fwy na 18.65 metr o hyd
- Pwysau o fwy na 44,000 cilogram
Hysbysiadau
- Gweler y tabl isod am gyfnodau rhybudd.
- E-bost i llwythianarferol@conwy.gov.uk
- Dylai cludwyr hefyd gyflwyno Ffurflen Indemniad yn flynyddol i indemnio'r awdurdod ar gyfer pob symudiad.
- Rhaid rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru ar wahân.
- Gallwch hefyd gysylltu â ESDAL i'w hysbysu o'r cais llwyth annormal.
Pwysau Cerbyd Gros
| Dimensiynau Cerbyd Llwythog | Cam Gweithredu |
| C&U < Pwysau Gros > 80,000 kg |
2 ddiwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd |
| 80,000 kg < Pwysau Gros > 150,000kg |
2 ddiwrnod clir o rybudd i'r Heddlu a 5 diwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd |
| 150,000 kg < Pwysau Gros |
Ffurflen Archeb Arbennig Priffyrdd Lloegr a NMWTRA a 5 diwrnod clir o rybudd i'r Heddlu a 5 diwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd |
Lled Cerbyd Llwythog
| Dimensiynau Cerbyd Llwythog | Cam Gweithredu |
| 2.9m < Lled > 5.0m |
2 ddiwrnod clir o rybudd i'r Heddlu |
| 5.0m < Lled > 6.1m |
Trwydded VR1 Priffyrdd Lloegr a NMWTRA a 2 ddiwrnod clir o rybudd i'r Heddlu |
| 6.1m < Lled |
Gorchymyn Arbennig Priffyrdd Lloegr a NMWTRA a 5 diwrnod clir o rybudd i'r Heddlu a 5 diwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd |
Hyd Cerbyd Llwythog
| Dimensiynau Cerbyd Llwythog | Cam Gweithredu |
| 18.65m < Hyd Anhyblyg > 30m |
2 ddiwrnod clir o rybudd i'r Heddlu |
| 30m < Hyd |
Gorchymyn Arbennig Priffyrdd Lloegr a NMWTRA a 5 diwrnod clir o rybudd i'r Heddlu a 5 diwrnod clir o rybudd ac indemniad i'r awdurdodau priffyrdd a phontydd |