Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Treforris Road, Dwygyfylchi - Traffig Unffordd: Gorchymyn


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn yw:
  • cynnal llif traffig yn rhydd a gwella diogelwch ar y ffyrdd
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Treforris Road Dwygyfylchi) (Traffig Unffordd) 2023


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Cyngor”), gan ymarfer ei bwerau dan Adrannau 1 a 2 (a Rhan IV Atodlen 9) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “Deddf 1984") a'r holl bwerau galluogol eraill, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn :-

  • 1.  Ni chaiff unrhyw un, heblaw am dan gyfarwyddyd neu â chaniatâd swyddog o'r heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd deithio ar hyd y darn ffordd a nodwyd yng Ngholofn 1 o'r Atodlen isod, ar wahan i gyfeiriad a nodwyd yng Ngholofn 2 yr Atodlen honno.

  • 2.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Ebrill 2023 a gellir ei ddyfynnu fel Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Treforris Road Dwygyfylchi) (Traffig Unffordd) 2023.

Atodlen

Atodlen
 Colofn 1 (Y Darn o Ffordd)Colofn 2 (Cyfeiriad Teithio) 
 Treforris Road:  o’i gyffordd â Cae Cyd Road i’w gyffordd â Conwy Old Road  Gorllewinol

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredfin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y 14eg dydd o Ebrill 2023.

TROSeal181180

Tudalen Nesaf:  Map

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content