start content

Cyfeirnod: CCBC - 044324

Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffyrdd Amrywiol Conwy)(Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2024 – Rhan 2


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud y Gorchymyn a enwir uchod o dan Adrannau 1 a 2 o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984, y bydd ei effaith yn gwahardd cerbydau rhag aros ar unrhyw adeg ar y darnau o ffordd a nodir yn yr Atodlen isod.

Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a'r cynllun a fydd yn dod i rym ar 3 Mai 2024 ar wefan y Cyngor. Os ydych am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddir gan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, o ran y Gorchymyn, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn, cyn pen chwe wythnos o’r dyddiad hwn.

Atodlen  - Dim aros ar unrhyw adeg

Sychnant Pass Road, Conwy

  • Y ddwy ochr; o bwynt 35 metr I’r orllewin o’I chyffordd hefo Rhodfa Sychnant am belter o 145 metr I gyfeiriad orllewin

Ffordd Nebo, Nebo

  • Y ddwy ochr; o bwynt 5m i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Ffordd Tŷ Newydd am bellter o 15m i gyfeiriad y gogledd-orllewin

 

Dyddiedig:  1 Mai 2024

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol


Tudalen Nesaf:  Gorchymyn

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content