Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ffyrdd Amrywiol, Llandudno - Gwahardd a Chyfyngu ar Aros: Gorchymyn


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Ffyrdd Amrywiol Llandudno (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2023 - Rhan 1

Yn unol â'i bwerau dan Adrannau 1 a 2 (a Rhan IV Atodlen 9), Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Deddf 1984"), a'r holl bwerau galluogi eraill, ac ar ôl ymgynghori efo Prif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III Atodlen 9 Deddf 1984, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Cyngor") yn gwneud drwy hyn y Gorchymyn canlynol:-

  • 1. Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y 14 dydd o Awst Dwy fil a thair ar hugain a gellir ei ddyfynnu fel "Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Ffyrdd Amrywiol Llandudno) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2023 – Rhan 1."

  • 2.
    • (1) Yn y Gorchymyn hwn:-


mae "safle tacsis awdurdodedig" yn golygu unrhyw ran o ffordd gerbydau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1028.2 yn Atodlen 6 Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Trafnidiaeth Ffyrdd 2016;

mae "lle parcio awdurdodedig" yn golygu unrhyw le parcio, ar ffordd, sydd wedi ei awdurdodi neu wedi ei ddynodi gan Orchymyn sydd wedi ei wneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi cael ei wneud dan y Ddeddf honno;

mae "safle bysiau" yn golygu unrhyw ddarn o ffordd gerbydau a ddynodir mewn unrhyw Erthygl neu Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel un sydd wedi ei fwriadu ar gyfer aros gan fysiau sydd wedi ei gynnwys oddi mewn i farc ffordd sy'n cydymffurfio â diagram 1025.1, 1025.3 neu 1025.4 yn Atodlen 6 Rheoliadau Arwyddion Trafnidiaeth a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2016;

mae gan "cerbyd hacni" yr un ystyr ag sydd gan "hackney carriage" yn Adran 38(1) Deddf Cerbydau (Tollau) 1971;

mae gan "bathodyn unigolyn gydag anabledd" yr un ystyr ag sydd gan "disabled person's badge" yn Rheoliadau Pobl Gydag Anabledd (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000;

mae gan "disg parcio" yr un ystyr ag sydd gan "parking disc" yn Rheoliad Rhif 8 Rheoliadau Gorchmynion Trafnidiaeth Awdurdodau Lleol (Esgusodiadau ar gyfer Pobl Gydag Anabledd) (Cymru) 2000;

    • (2) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos bathodyn unigolyn gydag anabledd yn y lle perthnasol:
      • (a) pan nad yw'r bathodyn wedi peidio â bod mewn grym; a
      • (b)
        • (i) pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu
        • (ii) pan fo'r bathodyn yn cael ei arddangos mewn lle amlwg ar flaen neu ar ochr agos y cerbyd (os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau), fel bod modd darllen blaen y bathodyn yn glir o'r tu allan i'r cerbyd.
    • (3) I bwrpas y Gorchymyn hwn, ystyrir bod cerbyd yn arddangos disg parcio yn y lle perthnasol:
      • (a) pan fo'r disg yn cael ei arddangos ar forden flaen neu banel deialau'r cerbyd, neu
      • (b) pan fo'r disg yn cael ei arddangos mewn man amlwg ar y cerbyd, os nad yw'r cerbyd wedi ei ffitio â borden flaen neu banel deialau.
    • (4) Ac eithrio lle nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at Erthygl neu Atodlen rifedig yn gyfeiriad at yr Erthygl neu Atodlen sydd â'r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

  • 3. Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 7 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar y darnau o ffordd a nodir yn Atodlen 1 y Gorchymyn hwn.

  • 4. Ac eithrio fel y darperir yn Erthygl 8 o'r Gorchymyn hwn ni chaiff neb, ac eithrio ar gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodi sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros na llwytho ar unrhyw adeg ar y darn o ffordd a nodir yn Atodlen 2.

  • 5. Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn Erthygl 7 y Gorchymyn hwn, ni chaiff unrhyw un, oni bai ei fod yn gweithredu dan gyfarwyddyd neu gyda chaniatâd cwnstabl heddlu neu swyddog gorfodaeth sifil mewn lifrai, achosi na chaniatáu i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg rhwng 9am a 6pm 1 Ebrill i 30 Medi ar y darn o ffordd a nodir yn Atodlen 3.

  • 6. Mae Gorchymyn Cadarnhau (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llefydd Parcio ar y Stryd) 2006 yn cael ei ddiddymu i'r graddau y mae'n ymwneud â'r cyfyngiadau a osodir ar y darn o ffordd a nodir yn Atodlen 4 o'r Gorchymyn hwn yn unig a bydd yn parhau i fod mewn grym llawn fel arall.

  • 7.
    • (1) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 a 5  y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darn(au) ffordd a gyfeirir atynt yn yr Erthyglau hynny, am gyhyd ag y bydd angen i ganiatáu:-
      • (a) Unigolyn i fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan ohono.
      • (b) Nwyddau i gael eu llwytho ar y cerbyd neu gael eu dadlwytho oddi arno.
      • (c) Defnyddio’r cerbyd, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r gweithgareddau canlynol, sef:-
        • (i) Gweithrediadau adeiladu, dymchwel neu ddiwydiannol.
        • (ii) Symud unrhyw rwystr ar draffig.
        • (iii) Cynnal, gwella neu ailadeiladu'r darn[au] ffordd dan sylw.
        • (iv) Gosod, codi, newid, neu atgyweirio, ar dir cyfagos i’r darn(au) ffordd dan sylw, unrhyw garthffos, neu unrhyw brif bibell neu gyfarpar cyflenwi nwy, dŵr neu drydan, neu unrhyw offer telegyfathrebu fel y mae'r rheiny'n cael eu diffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984.
      • (ch) Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio, os nad oes modd ei ddefnyddio'n hwylus i bwrpas o'r fath ar unrhyw ffordd arall, at wasanaeth awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.
      • (d)    Cerbyd darparwr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.
      • (dd) Galluogi'r cerbyd i aros gerbron neu yn agos at unrhyw adeilad sydd wedi ei leoli ar y darn[au] ffordd dan sylw neu'n gyfagos iddynt, am gyhyd ag y bydd angen rhesymol i'r cerbyd hwnnw aros yno mewn cysylltiad ag unrhyw briodas neu gynhebrwng.
      • (e) Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio i bwrpasau brigâd dân, yr heddlu neu ambiwlans.

    • (2) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 3 a 5 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i gerbyd unigolyn gydag anabledd sy'n arddangos, yn y lle perthnasol, fathodyn unigolyn gydag anabledd a disg parcio (lle mae'r gyrrwr, neu unigolyn arall sydd â gofal am y cerbyd, wedi nodi'r amser y dechreuodd y cyfnod aros) aros ar y darn[au] ffordd a gyfeiriwyd atynt yn yr Erthyglau hynny am gyfnod o ddim mwy na 3 awr (ar yr amod bod cyfnod o ddim llai nag 1 awr wedi mynd heibio ers diwedd unrhyw gyfnod blaenorol o aros gan yr un cerbyd ar yr un diwrnod).
  • 8.
    • (1) Ni fydd unrhyw beth yn Erthygl 4 y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu i unrhyw gerbyd aros ar y darn[au] ffordd y mae'r Erthygl honno'n cyfeirio atynt am gyhyd ag sydd angen i alluogi:-
      • (a) Y cerbyd, os na ellir ei ddefnyddio yn gyfleus i bwrpasau o’r fath ar unrhyw ffordd arall, i gael ei ddefnyddio mewn cyswllt ag unrhyw un o’r gweithrediadau canlynol, yn benodol:-
        • (i) Gweithrediadau adeiladu, diwydiannol neu ddymchwel.
        • (ii) Cael gwared ar unrhyw rwystr i draffig.
        • (iii) Cynnal a chadw, gwella neu ailadeiladu’r darn(au) o ffordd dan sylw.
        • (iv) Gosod, codi, newid, neu atgyweirio, ar y darn[au] ffordd dan sylw neu ar dir cyfagos â hwy, unrhyw garthffos, neu unrhyw brif bibell neu gyfarpar cyflenwi nwy, dŵr neu drydan, neu unrhyw offer telegyfathrebu fel y maent yn cael eu diffinio yn Neddf Telegyfathrebu 1984.
        • (v) Y cerbyd, os na ellir ei ddefnyddio yn gyfleus i bwrpasau o’r fath ar unrhyw ffordd arall, i gael ei ddefnyddio at wasanaeth awdurdod lleol neu gwmni gwasanaeth cyhoeddus, yn unol â phwerau neu ddyletswyddau statudol.
      • (b) Cerbyd darparwr gwasanaeth cyffredinol dan Adran 125 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.
      • (c) Galluogi'r cerbyd i aros wrth neu’n agos at unrhyw adeilad sydd wedi ei leoli ar y darn[au] ffordd dan sylw neu'n gyfagos atynt, am gyhyd ag y bydd angen rhesymol i'r cerbyd hwnnw aros yno mewn cysylltiad ag unrhyw briodas neu gynhebrwng.
      • (d) Galluogi i'r cerbyd gael ei ddefnyddio i bwrpasau brigâd dân, yr heddlu neu ambiwlans.
      • (e) Cerbyd sy'n aros pan fydd yn ofynnol i'r person sy'n rheoli'r cerbyd stopio yn ôl y gyfraith, neu mae'n rhaid iddo stopio er mwyn osgoi damwain neu ei atal rhag mynd ymlaen trwy amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth.
  • 9. Pan fo unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gwrthdaro ag amod sydd wedi ei gynnwys mewn Gorchymyn sydd wedi ei wneud, neu sydd mewn grym fel pe bai wedi ei wneud, dan Ddeddf 1984, ac sydd mewn grym pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, ac sy'n gosod cyfyngiad neu waharddiad ar gerbydau heblaw bysiau neu goetsys cyflym mewn arhosfan bysiau, neu'n esgusodi rhag cyfyngiad neu waharddiad o'r fath, darpariaeth y Gorchymyn hwnnw fydd drechaf.

  • 10. Bydd y gwaharddiadau a'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod gan y Gorchymyn hwn yn ychwanegol at unrhyw gyfyngiad neu amod sy'n cael ei osod gan unrhyw reoliadau sydd wedi eu gwneud dan Ddeddf 1984, neu sydd mewn grym fel pe baent wedi eu gwneud naill ai dan y Ddeddf honno neu gan unrhyw ddeddf arall, ac ni fyddant yn tynnu oddi wrtho.

Atodlen 1 (Dim aros ar unrhyw adeg)

Tudno Street

  • Ochr y gogledd-orllewin; o’i chyffordd ag Old Road am bellter o 5 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.

Old Road

  • Ochr y gogledd-ddwyrain; o’i chyffordd â Tudno Street am bellter o 3 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.

Great Ormes Road

  • Ochr y dwyrain; O bwynt 16 metr i'r gogledd o'i chyffordd â Lloyd Street West am bellter o 4 metr tua’r gogledd-orllewin.

Bryniau Road

  • Ochr y dwyrain; o bwynt 15 metr i’r de-ddwyrain o’i chyffordd â Lloyd Street West am 3 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

Abbey Road

  • Ochr y de; o’i chyffordd dwyreiniol gyda West Parade am bellter o 20 metr i gyfeiriad y dwyrain.

West Parade

  • Ochr y gogledd-ddwyrain; o’i fynediad i’r de gydag Abbey Road am bellter o 15 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

Whiston Passage

  • Y ddwy ochr; o’i chyffordd gyda’i hun am bellter o 15m i gyfeiriad y gogledd-orllewin.

Salisbury Passage

  • Y ddwy ochr;  o’i chyffordd gyda Salisbury Road am bellter o 4 metr.

Salisbury Road

  • Ochr y gorllewin; o bwynt 5 metr i'r gogledd-orllewin o'i chyffordd â Salisbury Passage am bellter o 10 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

Bryniau Road

  • Ochr y gorllewin; o bwynt 41 metr i’r gogledd-orllewin o'i chyffordd â Fairways am bellter o 13 metr tua’r gogledd-orllewin.

Great Ormes Road

  • Ochr y gorllewin; o bwynt 14 metr i’r de o’i chyffordd â Back Great Ormes Road, am bellter o 5 metr tua’r de.

Cwm Road

  • Ochr y gogledd-ddwyrain;
    • o bwynt 13 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Ffordd Penrhyn am bellter o 44 metr tua’r de-ddwyrain
    • o bwynt 23 metr i’r gorllewin o’i chyffordd gyda Ffordd Gwynedd i bwynt 72 metr o Ffordd Penrhyn
  • Ochr y de-orllewin; o bwynt 23 metr i’r gorllewin o’i chyffordd gyda Ffordd Gwynedd i bwynt 72 metr i’r de o Ffordd Penrhyn.

Ffordd Penrhyn

  • Y ddwy ochr;  o’i chyffordd gyda Cwm Road am bellter o 7 metr.

Brookes Street

  • Y ddwy ochr; o'i chyffordd gyda Trinity Avenue i’w chyffordd gyda Edwards Street.

Maesdu Road

  • Ochr y gogledd-orllewin; o bwynt 11 metr o’i chyffordd gyda Conway Road am bellter o 48 metr.

St Mary’s Road

  • Ochr y de-orllewin; o bwynt 6 metr i’r gogledd-orllewin o’i chyffordd â St. David’s Place am bellter o 12 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.
  • Ochr y de-ddwyrain; O bwynt 6 metr i'r gogledd-orllewin o'i chyffordd ag Albert Street am bellter o 12 metr tua’r de-ddwyrain.

Derwen Lane

  • O ddwy ochr; o bwynt 19 metr i’r gorllewin o'i chyffordd â Llanrhos Road am bellter o 10 metr tua’r gorllewin.

Mostyn Street

  • Ochr y gorllewin; o bwynt 14 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Gloddaeth Street am bellter o 3 metr i gyfeiriad y gogledd.

Tudor Road

  • Ochr y dwyrain; o bwynt 8 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Norton Road am bellter o 16 metr tua’r de.

Trinity Avenue

  • Ochr y de-ddwyrain;
    • o bwynt 10 metr i'r de-orllewin o'i chyffordd â Dyffryn Road am bellter o 20 metr tua’r gogledd-ddwyrain.
    • o bwynt 10 metr i'r de-orllewin o'i chyffordd â Lees Road am bellter o 20 metr tua’r gogledd-ddwyrain.

Conway Road, Llandudno

  • Ochr y dwyrain;
    • o’i chyffordd gyda Vicarage Road am bellter o 16 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.
    • o bwynt 10 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Vicarage Avenue am bellter o 20 metr i gyfeiriad y de.
    • o bwynt 10 metr i'r gogledd o'i chyffordd â Maenan Road am bellter o 20 metr tua’r de-orllewin.

Vicarage Avenue

  • Y ddwy ochr; o’i chyffordd â Conway Road am bellter o 8 metr tua’r gorllewin.

Maenan Road

  • Y ddwy ochr; o’i chyffordd â Conway Road am bellter o 8 metr tua’r gorllewin.

Eryl Place

  • Ochr y gogledd; o’i chyffordd â St Andrews Ave am bellter o 45 metr i gyfeiriad y gorllewin.

St Andrews Avenue

  • Ochr y gorllewin; o bwynt 10 metr i’r gogledd o’i chyffordd ag Eryl Place am bellter o 20 metr tua’r de-ddwyrain.
  • Y ddwy ochr; o’i chyffordd gyda Trinity Avenue am bellter o 4 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.

Trinity Avenue

  • Ochr y gogledd; o bwynt 15 metr i’r dwyrain o’i chyffordd gyda St Andrews Ave am bellter o 40 metr i gyfeiriad y gorllewin.
  • Ochr y de; o bwynt 12 metr i’r dwyrain o’i chyffordd gyda King’s Avenue am bellter o 36 metr i gyfeiriad y gorllewin.

Trinity Avenue

  • Y de-ddwyrain:
    • o bwynt 10 metr i'r de-orllewin o'i chyffordd â Dyffryn Road am bellter o 20 metr tua’r gogledd-ddwyrain.
    • o bwynt 10 metr i'r de-orllewin o'i chyffordd â Lees Road am bellter o 20 metr tua’r gogledd-ddwyrain.
  • Ochr y gogledd-orllewin; o bwynt 7 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r gyffordd â St David’s Road am bellter o 14 metr i gyfeiriad y de-orllewin.

The Oval

  • Ochr y de-ddwyrain: o bwynt 140m i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd gyda Taverners Court i fynedfa’r Ganolfan Chwaraeon.

Bodnant Crescent

  • Y ddwy ochr:
    • o’i chyffordd gyda Bodnant Road am bellter o 4 metr tua’r dwyrain.
    • o bwynt 44 metr i’r dwyrain o’i chyffordd gyda Bodnant Road am bellter o 8 metr tua’r dwyrain.
  • ochr y gorllewin: o bwynt 15 metr i’r gogledd o’i chyffordd gyda’i hun, gyferbyn â mynediad Ysgol Bendigaid William Davies, am bellter o 30 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

Bodnant Road

  • Ochr y dwyrain; o bwynt 10 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Bodnant Crescent am bellter o 20 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

St David’s Road

  • Y ddwy ochr; o’i chyffordd gyda Trinity Avenue am bellter o 4 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.

Victoria Avenue

  • Y ddwy ochr; o’i chyffordd â Ffordd Nant y Gamar am bellter o 6 metr i’r gorllewin.
  • Ochr y gogledd; o bwynt 45 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Ffordd Nant y Gamar am bellter o 6 metr i’r dwyrain.
  • Ochr y gogledd; o bwynt 72 metr i’r gorllewin o’i chyffordd â Ffordd Nant y Gamar am bellter o 6 metr i’r dwyrain.

Queens Road

  • Ochr y gorllewin: o bwynt 60 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Balfour Road am bellter o 39 metr tua’r gogledd.
  • Ochr y dwyrain: o bwynt 60m i’r de o’i chyffordd gyda Balfour Road am bellter o 50 metr i gyfeiriad y gogledd.

West Parade

  • Ochr y dwyrain; o’i chyffordd â Dale Road am bellter o 20 metr i’r gogledd.

Dale Road

  • Ochr y gogledd; o’i chyffordd â West Parade am bellter o 10 metr i’r dwyrain.

Lloyd Street West

  • Y ddwy ochr; o’i chyffordd â West Parade am bellter o 10 metr i’r dwyrain.

West Parade

  • Ochr y dwyrain; o bwynt 20 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Lloyd Street West am bellter o 20 metr.

Ty’n y Coed Road

  • Y ddwy ochr: o bwynt 10 metr i'r gorllewin o'i chyffordd gyda Tŷ Gwyn Road am bellter o 5 metr.

Clifton Road, Llandudno

  • Ochr y de-orllewin; o bwynt 33.5 metr o’i chyffordd â Gloddaeth Street am 5 metr i’r de-ddwyrain.

Atodlen 2 (Dim Aros a Dim Llwytho ar Unrhyw Adeg)

Stephen Street

  • Y ddwy ochr; ar ei hyd gyfan.

Atodlen 3 (Dim Aros 9am – 6pm 1 Ebrill i 30 Medi)

Glan y Môr Road, Bae Penrhyn

  • Ochr y gorllewin: o’i chyffordd gyda Morfa Road i’w chyffordd gyda Maes Gwyn Road.

Atodlen 4 (Dirymu)

Mostyn Street

  • Ochr y gorllewin; o bwynt 14 metr i’r gogledd o’i chyffordd â Gloddaeth Street am bellter o 3 metr i gyfeiriad y gogledd.

 

RHODDWYD dan Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y 7 dydd o Awst Dwy fil a thair ar hugain.

Seal181452

Tudalen Nesaf: Mapiau

end content