CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY
Adran 116 ac Atodlen 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980
Hysbysiad o fwriad i wneud cais i gau darnau o briffyrdd yn Tre Cwm, Llandudno
Rhoddir HYSBYSIAD bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel Awdurdod Priffyrdd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn bwriadu gwneud cais i Lys Ynadon Llandudno a fydd yn bresennol yn The Court House, Conway Road, Llandudno, LL30 1GA ar 23 Mai 2023 am 10:00am am Orchymyn o dan Adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn awdurdodi cau rhannau o'r briffordd sy’n ddarnau o dir yn Tre Cwm, Llandudno, a ddangosir yn goch ar gynllun L/1/17/21/31A ar y sail bod y briffordd yn ddiangen. Effaith y Gorchymyn fydd dileu pob hawl tramwy cyhoeddus dros y tir dan sylw.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn arfaethedig, ynghyd â mapiau yn Llyfrgell Llandudno, Swyddfeydd y Cyngor Coed Pella Bae Colwyn ac ar wefan y Cyngor. Gallwch wneud cais am ddogfennau papur trwy ffonio 01492 575337.
Gall unrhyw berson y mae’r Hysbysiad hwn wedi ei roi iddynt neu sy'n defnyddio'r briffordd dan sylw neu a fyddai'n cael ei dramgwyddo gan y Gorchymyn ar waith, ymddangos o flaen Llys yr Ynadon i wrthwynebu neu gyflwyno sylwadau ar y cais. Gofynnir i unrhyw berson sy'n bwriadu ymddangos gerbron Llys yr Ynadon yng ngwrandawiad y cais roi gwybod i Melissa Ross, Cyfreithiwr, ym Modlondeb, Conwy LL32 8DU cyn 23 Mai 2023 gan ddyfynnu cyfeirnod CCBC - 040476.
Dyddiedig: 19 Ebrill 2023
Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Tudalen Nesaf: Gorchymyn