Mae adran Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol y cyngor yn gyfrifol am yrru agenda cynllunio ymlaen llaw a chreu lleoedd uchelgeisiol Conwy ymlaen.
Mae gwaith yr adran yn cynnwys paratoi a monitro Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Conwy, sy'n nodi polisïau ar gyfer defnydd tir ac yn pennu ble bydd datblygiad yn dderbyniol. Mae'r adran hefyd yn cynhyrchu canllawiau cynllunio ategol ac yn darparu cyngor arbenigol ar greu lleoedd, yn ogystal ag arwain ar ystod o brosiectau cynllunio strategol eraill i hwyluso cyflawni datblygiad cynaliadwy o ansawdd uchel ledled Conwy.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gydbwyso anghenion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i hyrwyddo cymunedau cynaliadwy a gwella lles pawb yng Nghonwy.