Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Ymgynghoriadau gwastraff Ymgynghoriad gorsaf trosglwyddo gwastraff Gofer

Ymgynghoriad gorsaf trosglwyddo gwastraff Gofer


Summary (optional)
Gadewch i ni wybod beth yw eich barn ar y cynigion ar gyfer gwella gorsaf trosglwyddo gwastraff Gofer.
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y gwaith uwchraddio arfaethedig i adeilad depo trosglwyddo gwastraff ailgylchu presennol.

Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio o 26 Chwefror i 25 Mawrth 2024 i ddeall ein barn ar gynigion y datblygiad.

Sefyllfa bresennol

Mae Canolfan Swmpio Gofer yn gyfleuster trin a throsglwyddo gwastraff awdurdod lleol yn Abergele.  Cafodd y safle ei adeiladu yn 2006 a datblygwyd ymhellach yn 2011.  Mae’r safle yn derbyn deunydd ailgylchu a gesglir ar ymyl palmant o eiddo domestig o fewn ardal Sir Conwy (oddeutu 58,500 eiddo) ac o wasanaeth casglu ailgylchu masnachol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Beth yw'r cynigion?

Mae’r gwaith gwella bwriedig yn anelu i ddiweddaru a chynyddu capasiti storio ar gyfer deunydd wedi’i adael a’i baratoi ar gyfer ailgylchu.  Bydd hyn yn cefnogi’r Cyngor i fodloni cynlluniau Cynllun Lliniaru ac Atal Tân fel y nodir gan y rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd y gwaith gwella hefyd yn cynnwys adeiladu mannau storio wedi eu gorchuddio i’r gogledd a’r gorllewin o’r safle, estyniad ar yr adeilad presennol ar gyfer ardal samplo deunyddiau ac adleoli’r safle golchi cerbydau.

Sut i gymrad rhan

Cymerwch olwg ar y cynlluniau i gael mwy o fanylion am y cynigion.

Gweld y cynlluniau (PDF, 0.6MB)

Dogfennau adroddiad ymgynghoriad cyn ymgeisio.

Lleisiwch eich barn a rhowch wybod beth ydych chi’n ei feddwl am y cynigion.

Cwblhewch ein ffurfflen adborth

Gallwch weld y copïau papur o’r deunyddiau ymgynghori yn Llyfrgell Abergele, Stryd y Farchnad, Abergele LL22 7BP yn ystod yr amseroedd hyn:  9:30am tan 5:00pm Dydd Llun i ddydd Gwener, a 9:30am tan 12:30pm ar ddydd Sadwrn.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 25 Mawrth 2024.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd yr holl adborth y byddwn yn ei dderbyn o’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn ofalus cyn y byddwn yn gwneud cais am y caniatâd rydym ei angen i wneud y gwaith.

Dewisiadau hygyrch:

Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille. Rydym hefyd y cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.

Gallwn ddarparu disgrifiad llafar o’r cynigion dros y ffôn.

Gall preswylwyr ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog.  Os nad oes swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.

Gallwch hefyd gysylltu â ni i ofyn am gopi papur o’r ymgynghoriad.  Bydd lluniau yn cael eu darparu mewn maint A3, oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn print bras.

end content