Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Ymgynghoriadau gwastraff Ymgynghoriad gorsaf trosglwyddo gwastraff Cyffordd Llandudno

Ymgynghoriad gorsaf trosglwyddo gwastraff Cyffordd Llandudno


Summary (optional)
Gadewch i ni wybod beth yw eich barn ar y cynigion ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff.
start content

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 28 Tachwedd 2023.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff ar Ffordd Maelgwyn.  Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio o 31 Hydref tan 28 Tachwedd 2023 i ddeall ein barn ar gynigion y datblygiad.

Sefyllfa bresennol

Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn gweithredu Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau ar Ffordd Bron y Nant, Mochdre.  Mae’r safle yn storio gwahanol fathau o wastraff, o finiau sbwriel, deunydd a ysgubwyd o’r stryd a gwastraff sydd wedi ei dipio’n anghyfreithlon, ac yna’n eu trosglwyddo i’w trin, prosesu neu waredu.

Ers 2019, mae gwastraff y Sir nad ellir ei ailgylchu wedi ei drin ym Mharc Adfer, y safle Ynni o Wastraff rhanbarthol newydd yng Nglannau Dyfrdwy.  Mae hyn yn golygu gollwng casgliadau gwastraff cartref a masnachol mewn gorsaf trosglwyddo gwastraff preifat a’u rhoi mewn llwythi mwy i’w trosglwyddo i Lannau Dyfrdwy.  Cyn 2019, roedd cerbydau casglu ysbwriel yn dosbarthu gwastraff yn uniongyrchol i safle tirlenwi Llanddulas ac nid oedd angen gorsaf trosglwyddo gwastraff.

Rydym yn cynnig gorsaf trosglwyddo gwastraff newydd i gyfuno cyfleuster ailgylchu deunyddiau Mochdre a chyfleuster trosglwyddo gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Beth yw’r cynigion?

Mae gorsafoedd trosglwyddo gwastraff yn weithrediadau glân.  Mae’r safonau cydymffurfiaeth amgylcheddol ar gyfer safleoedd newydd yn nodi fod angen i unrhyw le ble mae gwastraff yn cael ei adael, ei storio, ei brosesu neu ei drin, fod o dan do.  Byddai’r orsaf trosglwyddo gwastraff yn debyg i gyfleusterau o fath storio masnachol effaith isel gan y byddai bob man ble mae gwastraff yn cael ei drin o dan do.

Mae’r cynigion rydym yn ymgynghori arnynt yn cynnwys adeilad depo, adeiladau allanol a swyddfeydd safle, gyda mannau parcio a phontydd pwyso.

Bydd cyfuno’r ddau weithrediad i leoliad canolog yn cynnal effeithlonrwydd a lleihau amser teithio ar gyfer cerbydau gwastraff, glanhau strydoedd, parciau a phriffyrdd.  Bydd staff, peiriannau a rheolwyr presennol y Cyfleuster Ailgylchu Deunyddiau yn symud i’r safle newydd.

Argraffiadau'r arlunydd

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yr holl adborth y byddwn yn ei dderbyn o’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn ofalus cyn y byddwn yn gwneud cais am y caniatâd rydym ei angen i wneud y gwaith.

Dewisiadau hygyrch:

Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille.  Rydym hefyd y cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.

Gallwn ddarparu disgrifiad llafar o'r cynigion dros y ffôn.  

Gall preswylwyr ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog.  Os nad oes swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.

Gallwch hefyd gysylltu â ni i ofyn am gopi papur o’r ymgynghoriad.  Bydd lluniau yn cael eu darparu mewn maint A3, oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn print bras.

end content