Mae’r canllawiau hyn ynglŷn â’r Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid yn berthnasol i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal a phobl mewn ysbytai.
Nid yw’n berthnasol i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain, mewn llety â chymorth na lleoliadau rhannu bywydau, sy’n cael eu hasesu dan drefniadau Amddifadu o Ryddid Cymunedol. Am wybodaeth am drefniadau Amddifadu o Ryddid Cymunedol, ewch i dudalen wybodaeth Amddifadu o Ryddid Cymunedol.
Ar gyfer pobl sydd wedi colli eu rhyddid yn yr ysbyty, cysylltwch â’r ward berthnasol neu’r Bwrdd Iechyd Lleol.
Beth yw pwrpas Deddfwriaeth Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid?
Mae’r Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol i bobl ddiamddiffyn mewn cartrefi gofal ac ysbytai sy’n derbyn gofal mewn ffordd sydd efallai’n eu hamddifadu o’u rhyddid er mwyn eu hamddiffyn rhag niwed. Cyflwynodd y llywodraeth y trefniadau diogelu hyn drwy ddeddfwriaeth yn 2007 dan Ddeddf Iechyd Meddwl 2005.
Bwriedir i’r trefniadau diogelu warchod hawliau pobl sydd heb alluedd neu alluedd meddyliol i benderfynu ynglŷn â’r gofal, cymorth a llety sydd eu hangen arnynt.
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005, Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid, yn bodoli i sicrhau nad oes unrhyw un yn colli ei ryddid heb reswm da ac, os oes angen amddifadu rhywun o'i ryddid, bod gan yr unigolyn hwnnw hawliau penodol. Mae'r hawliau hyn wedi’u cynnwys o fewn Deddfwriaeth Hawliau Dynol 1998 (Erthygl 5: Hawl i Ryddid a Sicrwydd ac Erthygl 8: Hawl i Barch am Fywyd Preifat a Theuluol).
Mae’n rhaid i unrhyw golled rhyddid y mae unigolyn yn ei brofi fod yn unol â’u lles gorau, bod y trefniadau lleiaf rhwystrol posib sydd ar gael o fewn yr adnoddau a bod yn gymesur â thebygolrwydd a difrifoldeb y niwed y gall yr unigolyn ei gael heb drefniadau diogelu yn eu lle. Gellir penodi Eiriolwyr a chynrychiolwyr i sicrhau bod pawb yn derbyn cefnogaeth yn ystod y broses asesu.
Bwriad trefniadau diogelu yw sicrhau bod unrhyw un sy'n colli ei ryddid yn gallu herio'r penderfyniad a bod asesiad rheolaidd ac annibynnol yn cael ei gynnal o ran a yw’r amddifadedd yn parhau i fod er budd pennaf yr unigolyn.
I bwy y mae’r Trefniadau Diogelu yn berthnasol?
Mae'r Trefniadau Diogelu yn berthnasol i bobl sydd:
- yn 18 oed neu’n hŷn
- yn byw mewn cartref preswyl neu nyrsio, neu’n glaf mewnol mewn ysbyty (GIG neu breifat). Bydd y Bwrdd Iechyd yn cwblhau asesiadau ar wardiau Ysbyty
- anhwylder meddwl neu anabledd y meddwl, e.e. dementia, anaf i'r ymennydd neu anabledd dysgu dwys
- heb alluedd i benderfynu ynglŷn â threfniadau a wneir i fodloni eu hanghenion gofal, cymorth a llety
- yn destun cyfyngiadau yn eu cynlluniau gofal sy’n arwain at golli rhyddid
- ac yn methu â rhoi cydsyniad dilys i drefniadau sy’n eu hamddifadu o’u rhyddid
Beth yw Rhyddid?
Mae’r hawl i ryddid yn galluogi pawb i gael rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain am ble i fyw a sut. Amddiffynnir ein hawl i ryddid yn Erthygl 5 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Beth yw colli rhyddid?
Mae Amddifadu o Ryddid yn y cyd-destun hwn yn digwydd pan gyfyngir ar ryddid unigolyn oherwydd:
- Eu bod mewn perygl o niwed
- Eu bod dan amryw gyfyngiadau i’w hamddiffyn, a allai gynnwys
- goruchwyliaeth gan eraill
- peidio â bod yn rhydd i adael
- Eu bod heb roi cydsyniad dilys neu’n methu â gwneud hynny
- Eu bod heb alluedd meddyliol i benderfynu ynglŷn â’u trefniadau gofal a llety
- A bod yr Awdurdod Lleol neu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwybod am y peth
Nid oes un prawf i benderfynu os amddifadwyd rhywun o’u rhyddid. Rhaid ystyried bob sefyllfa yn unigol, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol. Gallai’r rhain gynnwys:
- y math o gyfyngiadau (er enghraifft, cloi drysau, rheolaeth gorfforol, goruchwyliaeth, meddyginiaeth llonyddu, arwahanrwydd cymdeithasol ac yn y blaen)
- hyd y cyfyngiadau
- yr effeithiau ar yr unigolyn
- y modd y’u rhoddir ar waith
- a yw’r unigolyn yn gwrthwynebu ai peidio
- normalrwydd cymharol y trefniadau
- pwrpas y trefniadau
Enghreifftiau o gyfyngiadau posib:
- Bod o dan oruchwyliaeth; gallai hyn gynnwys defnyddio synwyryddion
- Peidio â gallu gadael man cymunedol yn barhaol neu gael eu cymryd yn ôl petaent yn ceisio gadael
- Offer sy’n rhwystro rhywun rhag symud neu gael mynediad i rywle, fel cloeon ar ddrysau, rheiliau ar y gwely a gwregys glin mewn cadair olwyn, er enghraifft
- Aelod o staff yn hebrwng rhywun allan yn y gymuned
- Arfer dulliau ymyrryd corfforol
- Meddyginiaeth gudd neu feddyginiaethau llonyddol a gwrth-seicotig
- Cyrffyw
Efallai y bydd cyfyngiadau eraill ar waith yn ôl anghenion yr unigolyn.
Er mwyn amddifadu rhywun o ryddid, mae’n anochel y gosodir cyfyngiadau ar rywun i ryw raddau, yn erbyn eu hewyllys. Os cyfyngir ar unigolyn gan eu salwch neu anabledd eu hunain, yn hytrach na phobl eraill, mae’n annhebygol o gyfrif fel amddifadu o ryddid.
Ar 2 Mehefin 2026, cyhoeddodd y Goruchaf Lys ddyfarniad sydd wedi newid yr hyn sy’n cyfrif fel amddifadu o ryddid dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Daeth y newidiadau hynny i rym ar unwaith ac maent yn weithredol gydol y Deyrnas Unedig. Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi canllawiau i gynorthwyo gyda goblygiadau’r dyfarniad hwn.
Os hoffech gael gwybod mwy am y ddeddfwriaeth berthnasol a’r ffordd y’i gweithredir, bydd y dolenni hyn yn ddefnyddiol:
Sut awdurdodir Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid?
Yr Awdurdod Rheoli yw’r cartref neu’r ysbyty y mae unigolyn yn preswylio ynddo pan fydd yn colli ei ryddid.
Os yw’r Awdurdod Rheoli o’r farn ei fod yn gofalu am rywun mewn ffordd sydd efallai’n eu hamddifadu o’u rhyddid, mae’n rhaid iddo wneud cais i'r 'Corff Goruchwylio’ i awdurdodi hynny. Mewn cartrefi gofal, yr Awdurdod Lleol lle mae’r unigolyn yn preswylio yno fel arfer yw’r Corff Gorchwylio. O ran ysbytai, y Corff Goruchwylio yw Bwrdd Iechyd Lleol yr ysbyty y mae’r unigolyn yn glaf ynddo.
Disgwylir i’r asesydd weithio’n annibynnol.
Yn ystod y drefn honno gellid hefyd cynnal asesiad i ganfod a yw'r unigolyn yn meddu ar alluedd i benderfynu ynglŷn â’u llety, gofal a thriniaeth. Gallai Meddyg cymwys asesu sut mae’r cyfyngiadau’n effeithio ar iechyd meddwl a lles yr unigolyn.
Fel rheol bydd ar yr asesydd Lles Pennaf eisiau siarad efo teulu neu ffrindiau’r unigolyn. Efallai y bydd hefyd yn gofyn i Eiriolwr Gallu Meddyliol Annibynnol gynorthwyo. Bydd yr Asesydd Lles Pennaf yn ceisio dysgu cymaint ag y gallai am ddymuniadau a theimladau’r unigolyn ynghylch ei ofal.
Ar ôl cwblhau’r asesiad, ac os yw’n fodlon bod yr holl ofynion yn cael eu bodloni a bod trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid er budd pennaf yr unigolyn, bydd yr asesydd yn argymell i’r Corff Goruchwylio awdurdodi’r trefniadau. Os bydd y Corff Goruchwylio yn awdurdodi’r trefniadau byddant yn gwneud hynny am gyfnod cyfyngedig - hyd at uchafswm o ddeuddeg mis.
Gall y Corff Goruchwylio hefyd bennu amodau neu wneud argymhellion i sicrhau y darperir gofal yn y ffordd leiaf cyfyngol.
Beth sy'n digwydd pan fydd yn rhaid i’r Awdurdod Rheoli wneud Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid ar frys?
Gall yr Awdurdod Rheoli gymeradwyo 'Awdurdodiad Brys’. Gall yr awdurdodiad hwn bara hyd at saith niwrnod (dan rai amgylchiadau gellir estyn y cyfnod saith niwrnod arall). Mae’n rhaid iddo hefyd, ar yr un pryd, wneud cais i'r Corff Goruchwylio am Dystysgrif Awdurdodi Safonol.
Beth sy'n digwydd ar ôl awdurdodi Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid?
Yn ystod yr asesiad bydd yr Asesydd Lles Pennaf neu’r sawl sydd ag Atwrneiaeth dros iechyd/lles, yn nodi rhywun i weithredu fel cynrychiolydd yr unigolyn ar gyfer awdurdodi Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid, sef Cynrychiolydd y Person Perthnasol. Gall y cynrychiolydd fod yn gyfaill, yn aelod o’r teulu neu’n gynrychiolydd annibynnol. Gall yr unigolyn neu gynrychiolydd ofyn i'r Corff Goruchwylio adolygu awdurdodiad y Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid a herio'r amddifadedd o ryddid yn y Llys Gwarchod.
Disgwylir i’r cynrychiolydd fod â chyswllt rheolaidd â’r unigolyn a’r cartref gofal, gan roi gwybod i’r Corff Gorchwylio am unrhyw bryder sydd ganddo ynghylch y trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid; er enghraifft, os ymddengys bod y cyfyngiadau’n ormodol neu nad ydynt er lles pennaf yr unigolyn neu na fodlonir yr amodau a bennwyd ar yr awdurdodiad.
Anogir cynrychiolwyr i gysylltu â Thîm Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid i drafod unrhyw bryder neu i dderbyn eglurhad ynghylch unrhyw fater o ansicrwydd.
Bydd gan yr unigolyn fynediad at Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol os nad oes ganddynt deulu neu ffrindiau sy’n addas. Gall Cynrychiolydd yr Unigolyn Perthnasol hefyd gael cymorth gan Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol os dymunant.
Ni ellir rhoi awdurdodiad nac amddifadu rhywun o’u rhyddid ond mewn man penodol am gyfnod penodol o amser. Pan ddaw’r cyfnod penodol hwnnw i ben neu pan mae’r unigolyn yn symud o’r fan, efallai y bydd angen cynnal asesiad o’r newydd ac ailadrodd y drefn os bernir y bodlonir y meini prawf perthnasol o hyd.
Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n credu bod rhywun yn cael ei amddifadu o'i ryddid mewn ysbyty neu gartref gofal?
Yn gyntaf, siaradwch â rheolwr y cartref, staff gofal neu staff y ward a gofyn a ydynt wedi gwneud cais i awdurdodi Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid. Os nad ydynt, ac os nad ydych chi’n fodlon â’r rheswm a roddwyd dros hynny, gofynnwch iddynt wneud cais.
Os na wneir atgyfeiriad a’ch bod yn dymuno gwneud un eich hun, gallwch wneud hynny drwy ddilyn y ddolen i wefan Llywodraeth Cymru. Ar y wefan honno fe ddewch chi o hyd i ffurflen ‘1b’ sy’n gosod templed defnyddiol ichi wneud atgyfeiriad ar gyfer Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid.
Os yw’r unigolyn mewn cartref gofal, gallwch anfon y ffurflen i dîm Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid yr Awdurdod Lleol drwy e-bost:
gweinyddiaethpoblddiamddiffyn@conwy.gov.uk
Neu os hoffech ffonio i drafod, ffoniwch y cydlynydd ar 01492 575634.
Os yw’r unigolyn yn yr ysbyty, dylech gysylltu â’r Bwrdd Iechyd yn uniongyrchol.
Gwybodaeth i Awdurdodau Rheoli
Dylai Awdurdodau Rheoli sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’u cyfrifoldebau dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (gan gynnwys dyfarniad y Goruchaf Lys ar 02/6/2026 (yn achos Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon) a’r rhannau hynny o’r Cod Ymarfer Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid sy’n berthnasol iddynt. Dylai Awdurdodau Rheoli gwblhau’r hyfforddiant perthnasol a gall gysylltu â’r tîm Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid am wybodaeth a chyngor ynglŷn â hynny.
Yn ôl y Cod Ymarfer, dylai’r Awdurdod Rheoli (oni bai fod rheswm da) roi gwybod i deulu, ffrindiau a gofalwyr yr unigolyn perthnasol, ac unrhyw Eiriolwr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol sy’n ymwneud ag achos yr unigolyn, bod cais am awdurdodiad Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid wedi’i gyflwyno.
Os ydych chi’n gartref gofal (Awdurdod Rheoli), cofiwch sicrhau eich bod wedi ystyried ffyrdd llai cyfyngol o ddiwallu anghenion yr unigolyn a bod eich cynlluniau gofal a’ch asesiadau risg o ran colli rhyddid yn egluro’r rhesymeg yn glir dros y trefniadau rydych chi’n bwriadu eu rhoi ar waith.
Mae’r ffurflen atgyfeirio (ffurflen 1) y mae angen ichi ei llenwi i wneud Awdurdodiad Brys a gwneud cais am Awdurdodiad Safonol ar gael i’w lawrlwytho yma. Mae’r ffurflen atgyfeirio (ffurflen 2) ar gyfer adnewyddu awdurdodiad sydd ar fin dod i ben ar gael yma.
Ar ôl eu llenwi, anfonwch y ffurflenni, ynghyd â chopïau o gynlluniau gofal ac asesiadau risg perthnasol yr unigolyn, at gweinyddiaethpoblddiamddiffyn@conwy.gov.uk
Sylwch fod y tîm yn gweithredu rhestr flaenoriaeth, felly defnyddiwch yr offeryn sgrinio (dolen allanol yn Saesneg yn unig) a chynnwys unrhyw fanylion perthnasol ar yr atgyfeiriad i alluogi'r tîm i flaenoriaethu'n briodol.
Mae’r gyfraith o ran Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid yn dal yn cael ei datblygu. Mae'r wybodaeth uchod yn ganllaw cyffredinol ac ni ddylid ei hystyried fel datganiad diffiniol o'r gyfraith. Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Tîm Trefniadau Diogelu Wrth Golli Rhyddid.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth a chyngor annibynnol ar wefannau’r llywodraeth, sefydliadau gwirfoddol a gwefannau sefydliadau sy'n delio â chyfraith iechyd a gofal cymdeithasol, e.e. Cymdeithas Alzheimer's, Mind Cymru, Comisiwn y Gyfraith, y Weinyddiaeth Gyfiawnder (dolenni yn Saesneg) a Llywodraeth Cymru.