Beth ddylech chi ei wneud?
Cysylltwch â'r Swyddog Cwynion ar:
Fel arall llenwch y ffurflen ar-lein:
Neu anfonwch ffurflen Canmoliaethau a Chwynion (PDF):
Swyddog Cwynion Statudol,
Adran Gwasanaethau Cymdeithasol,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN
Mae’r daflen hon ar gael ar ffurf hawdd ei ddarllen hefyd.
Y bobl a all roi cwyn
Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys plentyn, sydd wedi cael, neu a oedd â hawl i gael gwasanaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, wneud cwyn. Mae'r un peth yn wir os ydynt wedi dioddef oherwydd camau amhriodol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 yn darparu ar gyfer cynrychiolydd i wneud cwyn ar ran rhywun. Gall cynrychiolydd wneud cwyn ar ran rhywun os yw'r person hwnnw:
- yn blentyn; neu
- wedi gofyn i'r cynrychiolydd weithredu; neu
- heb allu o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005; neu
- wedi marw.
Rhaid i unrhyw gynrychiolydd sy'n gwneud cwyn ar ran rhywun gael ei ystyried gan y Gwasanaethau Cymdeithasol â digon o ddiddordeb yn lles y person hwnnw ac yn berson addas.
Amserlenni i ddatrys eich cwyn
Gan ddibynnu ar natur y gŵyn, byddwn yn ceisio datrys eich cwyn o fewn 24 awr. Os nad yw hyn yn bosibl yng ngham 1, byddwn yn cysylltu â chi yn anffurfiol o fewn 10 diwrnod gwaith o gydnabod eich cwyn, i drafod penderfyniad.
Os na allwn ddatrys eich cwyn yng ngham 1, gallwn ei symud ymlaen i gam 2, lle bydd Ymchwilydd Annibynnol yn cael ei benodi i ymchwilio i'ch cwyn ac adrodd eu canfyddiadau a gwneud unrhyw argymhellion. Yng ngham 2 ein nod yw ymateb i chi o fewn 25 diwrnod gwaith. Os bydd eich cwyn yn dal heb ei datrys, mae gennych hawl i fynd at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn:
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Old Field Road,
Pencoed,
Caerdydd,
CF35 5LJ