Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Hydref 2017 – Mehefin 2019 (Rhaglen 2 flynedd) Diwrnod Anwytho – argymelledig ond nid hanfodol Blwyddyn 1: Cwblhau tri modiwl 10 credyd Hydref - Rhagfyr - Modiwl 1: Plant a Theuluoedd neu Oedolion; Ionawr - Mawrth - Modiwl 2: Iechyd Meddwl a Lles;
Ebrill - Mehefin - Modiwl 3: Galluogi Eraill Blwyddyn 2: Medi - Mehefin: Cwblhau Maes Ymholi Arbenigol (30 credyd)
|
9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9:30am – 4:30pm |
Prifysgol Bangor neu Glyndŵr (I’w gadarnhau) |
Cydlynydd y cwrs |
Gweithwyr Cymdeithasol gyda mwy na 2 flynedd o brofiad |
Nodau ac Amcanion y Cwrs:
Nod y Rhaglen Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol (CSWP) yw arfogi gweithwyr cymdeithasol ymgynghorol i ymarfer drwy ddarparu gwybodaeth ymchwil ac arbenigol i eraill. Mae’r CSWP yn canolbwyntio ar wella gwybodaeth ac ymarfer ym maes gwaith cymdeithasol yng nghyd-destun Cymreig drwy sicrhau bod canfyddiadau ymchwil a chanfyddiadau beirniadol eraill yn cael eu datblygu a’u rhannu ymhlith y gweithlu yn gyffredinol.
Mae gan CSWP ddau lwybr:
Y Llwybr Modiwlaidd
Cwblhau tri modiwl dros ddwy flynedd:
- Blwyddyn 1: i) Ymarfer Gwaith Cymdeithasol Proffesiynol
- Blwyddyn 2: ii) Dadansoddi a Gwerthuso a iii) Datblygu a Lledaenu
Y Llwybr Ymchwil
- Cwblhau ymchwil dros ddwy flynedd. Bydd y myfyriwr yn datblygu prosiect ymchwil manwl yn ei faes ymarfer arbenigol.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.