Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Hydref 2017 – Mehefin 2019 (Rhaglen 2 flynedd) Diwrnod Cyflwyno – argymhellir ond nid yw'n orfodol Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno dros ddwy flynedd: Blwyddyn 1: addysgu a dysgu craidd mewn dau faes i) Ymgysylltu ac Ymarfer ii) Arweinyddiaeth a Datblygiad Proffesiynol Blwyddyn 2: Maes Ymchwil Arbenigol y cytunir arno gyda'r cyflogwr (30 credyd) |
9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9:30am – 4:30pm |
Prifysgol Bangor neu Glyndŵr (i’w gadarnhau) |
Cydlynydd y cwrs |
Gweithwyr Cymdeithasol gyda mwy na 3 blynedd o brofiad |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Drwy’r Rhaglen hon bydd gweithwyr cymdeithasol yn ehangu eu gwybodaeth cyffredinol a’u sgiliau, yn ogystal â datblygu mwy o fanylder profiad yn eu maes gwaith dewisol. Mae’r Rhaglen hon wedi’i seilio’n helaeth ar brofiad ymarfer gweithiwr cymdeithasol ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr hyn a ddysgir a sut y bydd hyn yn cael ei asesu. Lluniwyd y rhaglen er mwyn rhoi sylw parhaus ar wella gwybodaeth ac ymarfer ym maes gwaith cymdeithasol yng nghyd-destun Cymru drwy ymgorffori ymchwil a damcaniaeth gwaith cymdeithasol wrth ddadansoddi meysydd ymarfer penodol, ac wrth bwyso a mesur y meysydd hyn yn feirniadol. Cyflwynir y rhaglen dros ddwy flynedd.
Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy ran:
Rhan a) Addysgu a dysgu craidd mewn tri maes:
- i) Plant a Theuluoedd neu Oedolion
- ii) Iechyd Meddwl a Lles
- iii) Galluogi Eraill
Rhan 2) Maes Ymholi Arbenigol y cytunir arno rhwng y gweithiwr cymdeithasol a’i gyflogwr:
Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel 7 (neu mewn rhai achosion lefel 6) – 30 credyd blwyddyn 1 a 30 credyd blwyddyn 2. Anogir gweithwyr cymdeithasol i gwblhau’r dyfarniad o fewn 2 flynedd, ond gellir gwneud hyn dros 3 blynedd; mewn amgylchiadau arbennig mae’n bosibl y gellir ymestyn hyn ymhellach.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu, cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu a Dysgu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.