Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grwp targed |
Hydref 2017 - Mehefin 2019
Ymarfer Proffesiynol Gwaith Cymdeithasol (Blwyddyn 1)
Blwyddyn 2 - (i’w gadarnhau)
|
9:15am cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru 9:30 – 4:30 |
I'w gadarnhau - Llanelwy |
Wulf Livingston |
Bydd ymgeiswyr i’r CSWP: Gweithwyr cymdeithasol cofrestredig sydd â phrofiad proffesiynol o ddim llai na phum mlynedd ar adeg cofrestru i ddilyn y rhaglen Wedi bodloni unrhyw ofynion eraill gan Gyngor Gofal Cymru o ran mynediad Yn cael eu cyflogi fel uwch ymarferwyr neu weithwyr cymdeithasol ymgynghorol neu’n cael y cyfleoedd ymarfer i ddangos gofynion y rhaglen Yn cael cefnogaeth cyflogwr fel sy’n briodol ac wedi’i ddisgrifio mewn cytundeb dysgu, gan gynnwys nawdd a nodwyd |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Mae’r rhaglen hon ar gyfer y rheini â dyletswyddau sy’n gysylltiedig â swyddi uwch ymarferwyr (er y cydnabyddir nad yw pob cyflogwr yn defnyddio’r derminoleg hon) ac:
- yn weithwyr cymdeithasol cofrestredig
- yn meddu ar brofiad proffesiynol o ddim llai na thair blynedd ar adeg cofrestru i ddilyn y rhaglen
- wedi bodloni unrhyw ofynion eraill gan Gyngor Gofal Cymru o ran mynediad
- yn cael eu cyflogi fel uwch ymarferwyr neu’n cael y cyfleoedd ymarfer i ddangos gofynion y rhaglen
- yn cael cefnogaeth cyflogwr fel sy’n briodol ac wedi’i ddisgrifio mewn cytundeb dysgu, gan gynnwys nawdd a nodwyd
Nod y Rhaglen Uwch Ymarfer mewn Gwaith Cymdeithasol (Lefel 7) yw arfogi ymarferwyr perthnasol sy’n ymarfer ym maes gwaith cymdeithasol ar lefel gymhleth ac yn goruchwylio eraill. Cyflwynir y rhaglen dros ddwy flynedd:
- Blwyddyn 1: addysgu a dysgu craidd mewn dau faes: i) Ymgysylltu ac Ymarfer a ii) Arweinyddiaeth a Datblygiad Proffesiynol
- Blwyddyn 2: Maes Ymchwil Arbenigol.
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb gael hysbysiad i fynd arno cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi cael hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd ei bod yn bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.