Dyddiadau
- 2025:
- Cyrsiau'r bore, 10am tan 1pm (9:45am - cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru):
- 17 Mehefin
- 19 Medi
- 25 Medi
- Cyrsiau'r prynhawn, 1:30pm tan 4:30pm (1:15pm - cyrraedd ar gyfer te/coffi a chofrestru):
- 17 Mehefin
- 19 Medi
- 25 Medi
Manylion y cwrs
- Lleoliad: Coed Pella, Bae Colwyn
- Hyfforddwr: Training 2 Care
- Gwasanaethau targed: Lles Cymunedol, Tîm Anableddau, Gwasanaethau a Gomisiynir (PIVs), Tîm Pobl Ddiamddiffyn
- Grŵp targed: Byddai’n rhaid i rai sy'n dod ar y cwrs fod yn gweithio mewn tîm lle mae dysgu am Ddementia’n bwysig i’w swydd.
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae’r cwrs hwn ar gyfer pob aelod o staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cefnogi pobl sy’n byw â dementia. Yn ystod y cwrs, bydd pobl yn cael gwahanol ddarnau o offer arbenigol i’w gwisgo a fydd yn dangos sut deimlad yw byw â dementia. Byddant wedyn yn cael cymorth i symud yn defnyddio amrywiaeth o wahanol offer a thechnegau.
Bydd y cwrs yn hyrwyddo urddas a pharch i bobl sy’n byw â dementia. Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth o rwystrau cyfathrebu y gallai unigolyn â dementia eu profi, fel affasia.
Ar ddiwedd y sesiwn hyfforddiant, bydd asesiad ysgrifenedig byr er mwyn dangos tystiolaeth o’r hyn mae'r rhai fu ar y cwrs wedi’i ddysgu.
Am fwy o wybodaeth, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb glywed a oes lle i chi, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Dysgu a Datblygu’r Gweithlu. Peidiwch â mynd ar unrhyw gwrs oni bai eich bod wedi cael cadarnhad bod lle i chi, oherwydd mae’n bosib' y bydd y digwyddiad yn llawn.