start content

Nodau ac amcanion y cwrs:

Nod y cwrs hwn yw ystyried sut y gallwch weithio gydag unigolion a allai fod yn ymosodol neu'n dreisgar a sut i reoli ymddygiad trallodus.

Bydd yn archwilio’r meysydd canlynol: beth yw ymddygiad trallodus? Pwy all arddangos ymddygiad trallodus? Rhesymau dros ymddygiad trallodus, rhagfynegiad ac atal, cynnal asesiadau risg cywir, sut i ymateb yn briodol, ymatebion llafar ac iaith y corff.

Mae'r cwrs hefyd yn eich cynghori ar y ffyrdd gorau o gadw nhw eu hunain ac unigolion eraill yn ddiogel mewn sefyllfaoedd anniogel a pham ei bod yn bwysig ceisio deall y gallai fod rhesymau anhysbys dros ymddygiad trallodus.

Manylion y cwrs:

Hyd y cwrs: 50 munud gan gynnwys Cwis Asesu

  1. Gwyliwch bob pennod fideo. Bydd angen i chi ateb y cwestiynau o fewn pennod yn gywir, yna cyflwyno'ch atebion ar ddiwedd y bennod i'w cwblhau.
  2. Ar ôl i chi gwblhau'r holl benodau sydd ar gael, byddwch chi'n gallu cymryd y Cwis Asesu a chwblhau'r ffurflen Adborth.
  3. Gellir anfon Ardystiad Cwblhau PDF yn dangos enw, dyddiad cyflwyno a marc pasio’r Dysgwr at Reolwyr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk

Gall cwblhau'r cwrs gyfrif tuag at dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer gofynion ailgofrestru a chyfrannu at y wybodaeth sylfaenol ar gyfer Fframwaith Anwytho Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a FfCCh.

end content