Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Modiwlau CareTutor / BVS


Summary (optional)
start content

Mae gan CareTutor / BVS on-line learning gyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer y sector gofal ac mae’r tîm Dysgu a Datblygu'r Gweithlu yn falch o allu hwyluso hyn ar gyfer sefydliadau ac asiantaethau gofal cymdeithasol, heb unrhyw gost i chi.

  • Gall ddysgwyr gymryd dull hyblyg lle gallent ddechrau modiwl cwrs ar adegau sy’n eu gweddu nhw ac ar eu cyflymder eu hunain. Gellir gadael y cwrs ac ailddechrau eto pan mae amser yn caniatáu hynny, cofnodir y cynnydd a wneir ac mae’r Dysgwr yn ymuno ar yr un pwynt yn y cwrs ar ôl dychwelyd.
  • Mae modiwlau’r cwrs yn cynnig fideos yn dangos materion, esiamplau a gweithdrefnau iechyd a gofal cymdeithasol realistig.
  • Ar ôl cwblhau modiwl y cwrs yn llwyddiannus, gellir gwneud cais am Dystysgrif Cwblhau mewn fformat PDF a gaiff ei e-bostio i’r Rheolwr Dysgu ar gyfer ei gofnodi ar y Matrics Hyfforddi a’i roi ym mhortffolio’r Dysgwr.
  • Mae’r holl gyrsiau BVS wedi cael eu datblygu gan CareTutor, Llundain, gyda chymorth prif ymgynghorwyr y DU. Mae’r holl gyrsiau yn cael eu cefnogi gan Skills For Care, wedi’i mapio i’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn cael eu hadolygu gan sefydliadau megis y Gymdeithas Alzheimer's a’r Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth.

Sut mae modiwlau cyrsiau CareTutor/BVS yn gweithio

  • Mae bob modiwl y cwrs yn cynnwys penodau o fideo sy’n cynnwys un rhyngweithiad lle mae angen ateb cwestiwn yn gywir a’i gyflwyno cyn symud ymlaen i’r bennod nesaf.
  • Bydd atebion anghywir i’r cwestiwn yn golygu bydd y Dysgwr yn dychwelyd i adran gynharach yn y fideo i wylio eto cyn ateb y cwestiwn.
  • Rhaid i’r holl benodau gael eu cwblhau cyn cael mynediad at y Cwis Asesiad (3 ymgais i basio’r cwis sydd â chyfyngiad amser o 15 munud).
  • Mae angen sgôr o 80% neu uwch i basio’r cwis.
  • I gwblhau’r cwrs rhaid cyflwyno Ffurflen Adborth fer.
  • Gall PDF Tystysgrif Cwblhau yn dangos enw’r Dysgwr, dyddiad cyflwyno a’r marc pasio gael ei anfon i’r Rheolwr ar gais i sc.training@conwy.gov.uk.

Unwaith i chi ddod o hyd i gwrs sydd o ddiddordeb i chi, anfonwch e-bost at sc.training@conwy.gov.uk a all drefnu i’r cwrs gael ei ddynodi i chi. 

Byddwch yn derbyn e-bost sefydlu defnyddiwr newydd gan CareTutor sy’n cynnwys dolen i Borth eDdysgu CareTutor a chyfrinair y byddwch angen ei newid i gyfrinair “sy’n bersonol i chi”. Sylwch byddwch ond yn derbyn e-bost sefydlu defnyddiwr newydd ar gyfer y modiwl cyntaf rydych yn cofrestru ar ei gyfer ac nid ar gyfer unrhyw fodiwlau dilynol.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content