Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ceisiadau Ar Agor ar gyfer Rhaglen Lleoliadau Gwaith â Thâl

Ceisiadau Ar Agor ar gyfer Rhaglen Lleoliadau Gwaith â Thâl


Summary (optional)
start content

Ceisiadau Ar Agor ar gyfer Rhaglen Lleoliadau Gwaith â Thâl

Paid Work Placements

Lleoliadau Gwaith â Thâl

Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyhoeddi fod ceisiadau bellach ar agor ar gyfer ei Raglen Lleoliadau Gwaith â Thâl, sy’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc ennill profiad mewn llywodraeth leol.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae’r rhaglen yn darparu lleoliadau 16 wythnos a 25 awr yr wythnos ar y Cyflog Byw Cenedlaethol.  Lluniwyd y lleoliadau hyn i gefnogi unigolion sy’n gadael yr ysgol, coleg a’r brifysgol i ddatblygu’r sgiliau, hyder a’r profiad sydd eu hangen arnynt i gymryd eu camau cyntaf i’r byd cyflogaeth.

Meddai’r Cyng. Chris Cater, Aelod Cabinet Archwilio, Polisi a Pherfformiad: “Mae’r lleoliadau hyn yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n awyddus i agor y drws i gyflogaeth. P’un a ydych yn chwilio am brofiad i ehangu eich CV neu’n awyddus i gael blas ar swydd cyn ymrwymo i lwybr gyrfaol, mae’r rhaglen hon yn gyfle gwych.”

Bydd cyfranogwyr yn elwa o:

  • Profiad rhagweithiol - gweithio ar dasgau a phrosiectau go iawn.
  • Mentor - dysgu gan weithwyr proffesiynol llywodraeth leol.
  • Datblygu sgiliau i gefnogi ceisiadau am swyddi yn y dyfodol

Mae’r cyfleoedd eleni’n cynnwys:

  • Gweithiwr Cychod dan Hyfforddiant
  • Swyddog Cefnogi
  • Cynorthwyydd Gweithrediadau Hamdden
  • Swyddog TG Cynorthwyol Dan Hyfforddiant
  • Cefnogi Datblygu Economaidd
  • Gweithiwr Cryfhau Teuluoedd
  • Cynorthwyydd Gwarchod y Cyhoedd
  • Swyddog Cefnogi Prosiectau

I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, ymwelwch â; Lleoliadau Gwaith â Thâl - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy   

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Medi 2025 a chynhelir cyfweliadau ym mis Hydref.

 

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

Wedi ei bostio ar 02/09/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content