Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Bod yn Gynghorydd

Bod yn Gynghorydd


Summary (optional)
start content

Bod yn Gynghorydd

Siambr y Cyngor

Siambr y Cyngor

Cyn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth am fod yn Gynghorydd.

Mae Cynghorwyr yn gweithio gyda phobl leol a phartneriaid, fel grwpiau cymunedol, busnesau a sefydliadau eraill, i gynrychioli eu cymunedau a gwneud penderfyniadau pwysig am faterion lleol a gwasanaethau cyhoeddus lleol.  

  • Oes gennych chi wir ots am eich cymuned leol?
  • A oes rhywbeth yr ydych eisiau ei newid?
  • Ydych chi’n barod i wneud penderfyniadau heriol?

Mae bod yn Gynghorydd yn rôl amrywiol a boddhaus lle gallwch helpu i newid bywydau pobl er gwell. 

Ac mae’n bwysig bod Cynghorwyr yn adlewyrchu gwerthoedd ac anghenion y bobl sy’n eu hethol, fel bod modd iddynt gynrychioli’r holl wahanol safbwyntiau sydd yn y gymuned a gwneud penderfyniadau er lles pawb.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnwys 55 Cynghorydd a gaiff eu hethol gan y cyhoedd mewn etholiadau lleol, a chynhelir yr etholiadau lleol nesaf ar draws Cymru ym mis Mai 2027.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth a bod yn Gynghorydd, mae cyngor a gwybodaeth ar gael yma Bod yn Gynghorydd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Wedi ei bostio ar 23/06/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content