Cartref Newyddion Eitemau newyddion Ymgynghori ar gyllideb 2027-2028
start content

Ymgynghori ar gyllideb 2027-2028

Budget Consultation Socials Image_2728 (1)

Ymgynghori ar gyllideb

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn estyn gwahoddiad i breswylwyr gymryd rhan yn yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2027/28, i rannu eu safbwyntiau i helpu i lunio proses gosod cyllideb y Cyngor.

Mae Cynghorau ar draws y DU yn parhau i wynebu lefelau eithafol o bwysau ariannol. Mae costau darparu gwasanaethau hanfodol fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu gwastraff, llyfrgelloedd, theatrau a chanolfannau hamdden wedi cynyddu ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r bwlch ariannu cynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Er mwyn diwallu’r heriau hyn, bydd angen cyfuniad o reolaeth ariannol ofalus, trawsnewid gwasanaethau a chydweithio â’n cymunedau. Mae’n anochel y bydd hyn yn golygu penderfyniadau anodd, a allai gynnwys lleihau lefel rhai gwasanaethau.  

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Julie Fallon: “Mae Cynghorau ar draws y wlad dan bwysau ariannol enfawr, ac nid yw Conwy’n wahanol. Nid yw’r cyllid yr ydym yn ei gael yn cynyddu ar yr un gyfradd â’r galw am wasanaethau a chostau darparu, sy’n golygu ein bod yn wynebu penderfyniadau anodd am sut caiff adnoddau eu blaenoriaethu a sut caiff gwasanaethau eu darparu.

"Mae eich llais yn bwysig. Bydd deall blaenoriaethau ein preswylwyr, busnesau a chymunedau yn helpu i lywio ein penderfyniadau o ran y gyllideb a’n cynlluniau. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yng Nghonwy i gymryd rhan a rhannu eu barn am y gwasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw a’u hardal leol.”

Gellir dod o hyd i’r manylion llawn a’r arolwg ar wefan Conwy: Ymgynghori ar gyllideb 2027-2028 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch gael copi papur yng Nghoed Pella neu yn eich llyfrgell leol.

Cyflwynwch eich adborth erbyn 15 Ionawr 2027

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno i Gynghorwyr i gynorthwyo i lywio eu trafodaethau ar bennu’r gyllideb.

Wedi ei bostio ar 23/11/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content