Cartref Cyngor Gwybodaeth Cyllid Ymgynghori ar gyllideb 2027-2028
start content

Fel pob Cyngor arall yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wynebu pwysau ariannol parhaus ac mae’n rhaid iddo ganfod mwy o arbedion i fantoli ei gyllideb ar gyfer 2027 i 2028. Cyn derbyn unrhyw gyllid ychwanegol, mae’r Cyngor yn disgwyl bod tua £25.9 miliwn yn fyr, gan fod cost darparu gwasanaethau’n cynyddu ac mae mwy o bobl angen cymorth.

Rydym yn edrych ar bob ffordd bosib o ddefnyddio arian cyhoeddus yn fwy effeithlon a lleihau costau. Er y byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effaith ar drigolion, gallai rhai arbedion olygu bod ambell i wasanaeth yn cael ei leihau neu ei ddarparu’n wahanol.

Darllenwch y wybodaeth ymgynghori ar Gyllideb `Pam bod y Cyngor yn wynebu diffyg yn y gyllideb?' cyn cwblhau’r arolwg hwn. Gallwch hefyd fynd i roi cynnig ar Efelychydd y Gyllideb ar lein i ystyried y dewisiadau y byddech chi’n eu gwneud wrth bennu cyllideb gytbwys. Cliciwch ar y dolenni isod i archwilio’r rhain.

Efelychydd y Gyllideb

Cyn cwblhau ein harolwg y gyllideb, beth am roi cynnig ar ein her y gyllideb i weld sut y byddech chi’n cau’r bwlch a chydbwyso’r gyllideb?

Trwy ddefnyddio’r offeryn hwn sy’n hawdd i’w ddefnyddio, gallwch symud y llithryddion i addasu gwariant ar wahanol wasanaethau, codi incwm a dewis lefel treth y cyngor, gyda’r nod o gau’r bwlch yn y gyllideb.

Bydd unrhyw atebion a ddarperwch trwy efelychydd y gyllideb yn cael eu defnyddio yn yr un ffordd â’r atebion i arolwg y gyllideb, fel yr amlinellir isod.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r her, cwblhewch ein Harolwg y Gyllideb. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall blaenoriaethau lleol a siapio’r penderfyniadau yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.

Sut fydd eich data’n cael ei ddefnyddio

Bydd gwybodaeth a all eich adnabod chi, yn cael ei weld gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn unig. Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw o’r dyddiad y bydd yr arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y ffordd y bydd eich data’n cael ei ddefnyddio drwy glicio ar yr hysbysiad preifatrwydd isod.

Llenwi’r arolwg hwn

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w lenwi. Fyddech chi cystal ag ymateb erbyn Dydd Gwener 15 Ionawr 2027.

Mae copïau papur ar gael yng Nghoed Pella neu unrhyw lyfrgell yn Sir Conwy.

Mae’r arolwg hwn ar gael mewn fformatau eraill ar gais trwy gysylltu â sgwrsysir@conwy.gov.uk.

Pam bod y Cyngor yn wynebu diffyg yn y gyllideb? Ysbysiad preifatrwydd

end content