Ymgynghoriad ar Gyllideb 2026/27

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn estyn gwahoddiad i breswylwyr gymryd rhan yn yr Ymgynghoriad ar Gyllideb 2026/27.
Mae Cynghorau ar hyd a lled y DU yn parhau i wynebu costau cynyddol a mwy o alw am wasanaethau. Er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol megis addysg, gofal cymdeithasol, casglu gwastraff, llyfrgelloedd, theatrau a chanolfannau hamdden, mae’n rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fynd i’r afael â bwlch ariannu sylweddol yn 2026/27.
Er mwyn wynebu’r her hon, bydd angen i’r Cyngor wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’i adnoddau. Fe allai hyn olygu penderfyniadau anodd, yn cynnwys lleihau lefel rhai gwasanaethau.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Julie Fallon: “Mae Awdurdodau Lleol ar hyd a lled y DU yn wynebu heriau sylweddol, a dydi Conwy ddim yn eithriad. Mae’r pwysau yma’n effeithio ar y gwasanaethau yr ydym ni gyd yn dibynnu arnynt, ac mae angen i ni wneud penderfyniadau anodd gyda’n gilydd.
Mae eich barn chi yn hollbwysig i’n helpu ni i bennu cyllideb sydd yn adlewyrchu blaenoriaethau ein cymunedau.
Rwy’n annog pawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghonwy i ddarllen y wybodaeth yr ydym wedi’i rannu am ein sefyllfa ariannol, a dweud wrthym pa wasanaethau sydd fwyaf pwysig i chi a’ch ardal leol.
Gellir dod o hyd i’r manylion llawn a’r arolwg ar wefan Conwy: Arolwg Cyllideb 2026-2027 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gallwch gael copi papur yng Nghoed Pella neu yn eich llyfrgell leol.
Cyflwynwch eich adborth erbyn 23ain Ionawr 2026.
Bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno i gynghorwyr a byddant yn llywio’u trafodaethau ar bennu’r gyllideb.
Wedi ei bostio ar 17/12/2025