Busnes yn cael ei erlyn am fethu ag arddangos sgôr hylendid bwyd
Yn Llys Ynadon Llandudno ar 27/01/26, cafwyd Mez Enterprises Ltd, a oedd yn masnachu fel Bwyty Jalsa yng Nghonwy, Mujibar Rahman ac Yasin Rahman, yn euog o fethu ag arddangos sgôr hylendid bwyd dilys o 1 (un) yn y fynedfa i’w heiddo, neu gerllaw.
Cafodd Mez Enterprises Ltd ddirwy o £1,000 a gorchymyn i dalu gordal o £400.00, sef cyfanswm o £1,400.00, i gael ei dalu’n llawn cyn pen 28 diwrnod.
Cafodd Mujibar Rahman (Cyfarwyddwr) ddirwy o £1,000 a gorchymyn i dalu costau o £170 a gordal o £400.00, sef cyfanswm o £1,570.00, i gael ei dalu’n llawn cyn pen 28 diwrnod.
Cafodd Yasin Rahman (Rheolwr) ddirwy o £500 a gorchymyn i dalu costau o £170 a gordal o £200.00, sef cyfanswm o £870.00, i gael ei dalu’n llawn cyn pen 28 diwrnod.
Dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, rhoddwyd sgôr hylendid bwyd o 1 i’r busnes yn dilyn archwiliad ar 16 Gorffennaf 2025. Cynhaliwyd gwiriadau cydymffurfio ym mis Gorffennaf ac Awst 2025 a gwelwyd nad oedd y sticer sgôr wedi’i arddangos. Er gwaethaf rhybuddion ar lafar ac ysgrifenedig, ni wnaeth y busnes gydymffurfio a chafodd ei erlyn am fethu ag arddangos y sgôr yn y lleoliad gofynnol.
Meddai’r Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio Conwy: “Mae’r Cynllun Sgôr Hylendid Bwyd yn bodoli i roi gwybod i’r cyhoedd am safonau hylendid mewn busnesau bwyd. Mae methu ag arddangos sgôr hylendid bwyd dilys neu gywir yn atal cwsmeriaid rhag gweld y sgôr cyn mynd i mewn i’r eiddo.
“Rydym yn monitro busnesau bwyd i sicrhau eu bod yn bodloni’r gofyniad cyfreithiol ar gyfer arddangos sgoriau bwyd. Os gwelir nad yw busnes yn cydymffurfio, byddwn yn cymryd camau priodol gan ddefnyddio dull fesul cam o orfodi. Gallai hyn gynnwys rhoi rhybuddion cosb benodedig neu erlyn busnesau sy’n methu â gweithredu ar gyngor neu rybuddion blaenorol.”
Wedi ei bostio ar 06/02/2026