Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gyrfaoedd 360


Summary (optional)
start content

Gyrfaoedd 360

Careers in 360

Gyrfaoedd 360

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch iawn o ymddangos ar blatfform Gyrfaoedd 360 - gan helpu i ddenu, datblygu a chadw talent o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Lansiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) borth Sector Cyhoeddus CLlLC o fewn platfform Gyrfaoedd 360 yn gynharach eleni.

Mae Conwy yn ymddangos ochr yn ochr â Chynghorau eraill Cymru yn arddangos yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael o fewn llywodraeth leol.

Mae platfform Gyrfaoedd 360 yn darparu porth rhyngweithiol i yrfaoedd llywodraeth leol. 

Wedi'i gynllunio ar gyfer cenhedlaeth digidol yn gyntaf, mae'r platfform yn caniatáu i ddefnyddwyr ddilyn llwybrau gyrfa clir, archwilio cynlluniau prentisiaeth, ac ymgysylltu â swyddi gwag byw dros y we 24/7.

Dywedodd y Cynghorydd Hannah Fleet, Aelod Cabinet Adnoddau Dynol: “Mae cynghorau’n gyfrifol am gymaint o wasanaethau sy’n effeithio ar fywyd bob dydd, ac o ganlyniad mae yna ystod mor eang o gyfleoedd a gyrfaoedd nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ohonynt.  Mae Gyrfaoedd 360 yn rhoi cyfle i bobl ifanc edrych ar y cyfleoedd hyn ac yn cynnig cipolwg ar lwybrau gyrfa posibl.”

Nod Gyrfaoedd 360 yw cysylltu awdurdodau lleol â'r 350,000+ o ddysgwyr ledled Cymru, gan sicrhau y gall y genhedlaeth nesaf o ddoniau "weld eu hunain" mewn gyrfa yn y sector cyhoeddus.

Ewch i edrych ar Gyrfaoedd 360 yn Gyrfaoedd 360 - Cymru 

Wedi ei bostio ar 26/06/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content