Achos yn Llys Ynadon Llandudno (28/07/25)
Dydd Llun (28/07/25) gwnaeth Llys Ynadon Llandudno ddirwyo S H Property Trading Ltd am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwella yn 24 Marine Road, Pensarn.
Plediodd cynrychiolydd y cwmni yn euog i ddau gyhuddiad yn ymwneud â drysau tân yn Fflat 3 a Fflat 5 24 Marine Road. Bydd pedwar cyhuddiad yn ymwneud ag eiddo arall yn aros ar ffeil.
Cafodd y cwmni ddirwy o £3,000 mewn cysylltiad â Fflat 3 a £3,000 mewn cysylltiad â Fflat 5, gorchmynnwyd i’r cwmni dalu costau cyfreithiol ac ymchwiliol o £3,327.04, a gordal dioddefwr o £2,000. Cyfanswm o £11,327.04.
Dywedodd y Cynghorydd Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth, yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio, “Mae’n rhaid i landlordiaid gydymffurfio â deddfwriaeth a sicrhau bod eu heiddo rhent yn ddiogel ac yn addas i’w tenantiaid.”
Yn ei sylwadau dedfrydu, dywedodd y Barnwr mai’r gobaith yw y bydd S H Property Trading Ltd yn awr yn gweithio'n adeiladol gyda'r awdurdod lleol.
Wedi ei bostio ar 30/07/2025