Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2026

Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2026


Summary (optional)
start content

Dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2026

Youth Work Week

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi Wythnos Gwaith Ieuenctid 2026.

Mae’r wythnos yn gyfle i arddangos a dathlu’r rhan hanfodol y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae wrth gefnogi pobl ifanc ar draws y sir.

Rhwng 23 a 30 Mehefin, bydd Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy yn hyrwyddo sut y defnyddir chwaraeon anhraddodiadol fel arf pwerus i ymgysylltu â phobl ifanc. Mae’r gweithgareddau hyn yn cael eu defnyddio fel adnoddau effeithiol i ymgysylltu â phobl ifanc, creu cyfleoedd ar gyfer cysylltu, annog sgyrsiau cadarnhaol, a chefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles.

Bydd clybiau ieuenctid mynediad agored ac wedi’u targedu ar draws y sir yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau creadigol a chynhwysol, gan roi gofodau diogel a chroesawgar i bobl ifanc gysylltu, mynegi eu hunain a datblygu sgiliau newydd.

Bydd yr wythnos hefyd yn tynnu sylw at waith partneriaeth gyda’r Urdd, sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu drwy gyfrwng y Gymraeg a chryfhau eu cysylltiad â’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg Conwy, sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn: “Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi pobl ifanc ar draws Conwy, gan eu helpu i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd ac ymdeimlad o berthyn

“Mae’r Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle gwych i ddathlu ymroddiad ein gweithwyr ieuenctid a thynnu sylw at yr effaith gadarnhaol maent yn ei chael bob dydd. Mae hefyd yn gyfle i’n cymunedau weld sut yr ydym yn ymgysylltu â phobl ifanc mewn ffyrdd creadigol ac ystyrlon, yn cynnwys drwy weithgareddau sy’n cefnogi eu lles ac yn eu hannog i ffynnu.”

Anogir preswylwyr, teuluoedd a phartneriaid i gymryd rhan a gweld effaith gadarnhaol gwaith ieuenctid yn ein cymuned.

Am fwy o wybodaeth ac i weld y rhaglen lawn o weithgareddau, ewch i www.facebook.com/GIConwyYS.

Wedi ei bostio ar 24/06/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content