Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Gorchymyn Cau - Easy Shop, Madoc St, Llandudno

Gorchymyn Cau - Easy Shop, Madoc St, Llandudno


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Cau - Easy Shop, Madoc St, Llandudno

Tybaco anghyfreithlon a atafaelwyd

Tybaco anghyfreithlon a atafaelwyd

Fe archwiliodd Safonau Masnach Cyngor Conwy eiddo manwerthu Easy Shop yn 42 Madoc Street, Llandudno ddydd Mercher 22 Gorffennaf, yn rhan o ymgyrch oedd yn targedu tybaco a fêps anghyfreithlon ar draws y Sir.

Fe fu sawl cwyn ac ymweliadau gorfodi â’r eiddo’n flaenorol, yn cynnwys adroddiadau o werthu fêps a thybaco i blant, darganfod waliau ffug a storfeydd cudd, defnyddio car ‘i guddio nwyddau’ oedd wedi'i barcio gerllaw ac atafaelu nwyddau anghyfreithlon.

Yn ystod yr archwiliad hwn, fe atafaelodd Swyddogion Safonau Masnach dybaco anghyfreithlon a chyflwyno rhybudd cau o dan Adran 76 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Ar 23 Gorffennaf, cyflwynodd Llys Ynadon Llandudno Orchymyn Cau a fydd yn golygu bod yn rhaid i’r eiddo fod ar gau am gyfnod o 3 mis.

Meddai’r Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio Conwy: “Rydym yn ymroddedig i sicrhau diogelwch ein cymuned a chynnal amgylchedd masnachu teg a chyfartal.  

“Mae’r busnesau sydd yn cyflenwi tybaco a fêps anghyfreithlon yn niweidio busnesau lleol cyfreithlon ac nid oes croeso iddynt yng Nghonwy.  Y neges i unrhyw un sy’n gweithredu, yn bwriadu gweithredu, neu’n gwybod eu bod yn gosod eiddo i fusnes o’r fath, yw y byddwn yn defnyddio grym llawn y gyfraith i’ch cau chi lawr.

“Fe hoffwn i hefyd ddiolch i dîm Safonau Masnach y Cyngor; heb eu hymroddiad a’u hymrwymiad fe fyddai’r busnes yma’n parhau i werthu tybaco a fêps anghyfreithlon. Mae’r neges yn glir, ‘ddim yng Nghonwy’.”

Mae mynediad hawdd at dybaco rhad yn cynyddu’r siawns y bydd plant yn dod yn gaeth iddynt am oes.  Gall fêps a thybaco anghyfreithlon gynnwys llawer mwy na’r lefelau o nicotin a ganiateir, yn ogystal â difwynwyr peryglus nad ydynt yn cael eu rheoleiddio a fydd yn cael goblygiadau allai newid bywydau.

Mae’r Cyngor yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyflenwi’r cynnyrch anghyfreithlon yma i’w adrodd yn ddienw ar-lein https://noifs-nobutts.co.uk/ 

Cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar safonau.masnach@conwy.gov.uk

Wedi ei bostio ar 24/07/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content