Marchnad Bae Colwyn yn Dychwelyd

Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn
Bydd Marchnad Stryd Bae Colwyn yn dychwelyd yn 2026. Wedi'i lleoli ar Ffordd yr Orsaf a Seaview Road, bydd y lansiad cychwynnol yn cynnwys digwyddiadau tymhorol arbennig fel rhan o “Gasgliad Nadolig Bae Colwyn” - rhaglen sydd wedi'i chynllunio i arddangos doniau lleol a dathlu cyfnod yr ŵyl.
Cynhelir y digwyddiad cyntaf, sef ‘Cynnau Goleuadau’r Nadolig,’ ar 28 Tachwedd o 3:00 PM tan 7:30 PM, gyda Gorymdaith Llusernau yn cychwyn am 6:00 PM.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dyfarnu'r contract i reoli'r farchnad stryd i Together for Colwyn Bay Limited ac mae disgwyl i'r farchnad awyr agored wythnosol reolaidd ddechrau ym mis Mawrth 2026.
Y nod yw dod â gwneuthurwyr lleol, gwerthwyr bwyd, crefftwyr a gweithgareddau a arweinir gan y gymuned yn ôl i galon Bae Colwyn.
Dywedodd y Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Conwy: “Am nifer o flynyddoedd, roedd y farchnad yn chwarae rhan hanfodol yn economi Bae Colwyn. Mae wedi bod o fudd i drigolion lleol ac wedi denu ymwelwyr o ardaloedd eraill. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr ail-lansiad yn digwydd ochr yn ochr â’r mentrau newydd, sy’n addo dod ag arlwy amrywiol a llawn bwrlwm a fydd yn denu siopwyr ac yn dod â buddion go iawn i Fae Colwyn. Dymunaf bob llwyddiant i Together for Colwyn Bay Limited.”
Ychwanegodd Kai Davies, Cyfarwyddwr Gweithrediadau i Together for Colwyn Bay: “Rydw i’n gyffrous iawn i ddod â’r farchnad yn ôl i Fae Colwyn. Mae’n gyfle gwych i gefnogi busnesau lleol ac i’n cymuned ddod at ei gilydd.
“Bydd y farchnad a’r digwyddiadau tymhorol yn bywiogi’r ardal. Rydym yn ymroddedig i wneud Bae Colwyn yn gyrchfan sy’n dathlu doniau lleol ac yn meithrin ysbryd cymunedol.”
Bydd y farchnad wythnosol yn lansio’n swyddogol ym mis Mawrth 2026 a bydd diwrnodau yn cael eu cynllunio’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal â’r farchnad wythnosol, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar themâu arbennig, gan gynnwys Artisan a Marchnadoedd Ffermwyr.
Am ragor o wybodaeth a diweddariadau, dilynwch Together for Colwyn Bay ar gyfryngau cymdeithasol neu ewch i www.togetherforcolwynbay.org
Llun: (L to R) Kai Davies (Cyfarwyddwr Gweithrediadau Together for Colwyn Bay) Pam Stewart (Cadair y Together for Colwyn Bay), Cyng Sharon Doleman (Aelod Cabinet Datblygu Economaidd), and Cyng Chris Hughes (Aelod Ward Glyn)
Wedi ei bostio ar 21/11/2025