Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Glan Môr Bae Colwyn yn cael nifer o wobrau gan CIHT

Glan Môr Bae Colwyn yn cael nifer o wobrau gan CIHT


Summary (optional)
start content

Glan Môr Bae Colwyn yn cael nifer o wobrau gan CIHT

CIHT AWARDS 2

Wobrau gan CIHT

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ennill gwobrau mewn 3 chategori yng ngwobrau Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth ar gyfer Prosiect Glan Môr Bae Colwyn.

Roedd y gwaith ar Brosiect Glan Môr Bae Colwyn yn ymestyn dros 2 filltir o Splash Point / Pont y Rheilffordd ym mhen Hen Golwyn o'r Promenâd i Erddi Combermere yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae gwelliannau i amddiffynfeydd arfordirol wedi'u gwneud drwy fewnforio tywod a chreigiau i amddiffyn isadeiledd hanfodol fel yr A55 a'r rheilffordd. Fel rhan o'r gwelliannau, mae llwybrau cerdded wedi'u lledu i greu llwybrau a rennir. Mae llochesi newydd, celfi stryd ac offer chwarae hygyrch wedi'u hychwanegu, yn ogystal â llwyfan pysgota a chaffi.

Enillodd Cam 3 (Hen Golwyn) y Wobr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Roedd cam hwn y prosiect yn cynnwys:

  • Diogelu morglawdd Fictoraidd gyda wal gynnal greigiau 800m newydd
  • Codi uchder y promenâd
  • Platfform pysgota newydd
  • Gwell mynediad at y traeth
  • Golau newydd
  • Llwybr a rennir
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
  • Mwy o lefydd parcio i bobl anabl
  • Amrywiaeth o welliannau amgylcheddol a bioamrywiaeth, gan gynnwys unedau pyllau llanw ecogoncrit, pyllau fertigol a choncrit gweadog ar y morglawdd newydd i ddarparu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau morol

Enillodd Cam 2b (Llandrillo-yn-Rhos) y Wobr Iechyd, Diogelwch a Lles a Phrosiect Isadeiledd y Flwyddyn. Cafodd y cam hwn o'r prosiect ganmoliaeth uchel hefyd yn y Categori Teithio Llesol. Roedd Cam 2b yn cynnwys:

  • 1 miliwn tunnell o dywod o flaen y morglawdd presennol
  • Llwybrau cerdded a llwybrau a rennir ar wahân
  • Amrywiaeth o gelfi stryd newydd
  • Mannau chwarae a hamdden, gan gynnwys offer chwarae, gemau ac offerynnau cerdd
  • Golau newydd
  • Llochesi
  • Bocsys Planhigion
  • Teils celf a gwybodaeth hanesyddol
  • Pwyntiau gwefru cerbydau trydan
  • Mwy o lefydd parcio i bobl anabl

Mae dau giosg yn cael eu hadeiladu oddi ar y safle ar hyn o bryd a byddant yn cael eu gosod ar ochr Llandrillo-yn-Rhos o'r prosiect yn ystod gwanwyn 2026.

Wedi ei bostio ar 18/12/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content