Conwy'n Dathlu Rhagoriaeth mewn Twristiaeth

Digwyddiad Rhagoriaeth mewn Twristiaeth
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael hwb newydd i gynnig twristiaeth yr ardal, gan groesawu 12 o dywyswyr twristiaid newydd gymhwyso a 25 o fusnesau Llysgenhadon Twristiaeth Ardystiedig Conwy mewn digwyddiad arbennig yn Llandudno.
Wedi’i gynnal yng Ngwesty St George, roedd y Digwyddiad Rhagoriaeth mewn Twristiaeth yn gyfle i bartneriaid, busnesau ac unigolyn newydd gymhwyso ddod at ei gilydd, oll gydag un nod – gwneud Sir Conwy yn lle bythgofiadwy i ymweld ag o.
Diolch i gefnogaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin, bu i dîm Twristiaeth ac Adfywio’r Cyngor gyfrannu at gost Cwrs Tywyswyr Twristiaid Bathodyn Gwyn Llandudno, a ddarparwyd gan Gymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru. Dros 12 o wythnosau bu’r cyfranogwyr yn archwilio treftadaeth Llandudno, yn mireinio eu sgiliau tywys ac yn cwblhau asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Talodd eu gwaith caled ar ei ganfed wrth i 12 o dywyswyr twristiaid newydd dderbyn eu tystysgrifau swyddogol gan yr Arglwydd Mostyn, gan nodi ennyd cyffrous ym mhrofiadau ymwelwyr y dref.
Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin hefyd wedi helpu i gryfhau Cynllun Llysgenhadon Busnesau Twristiaeth Ardystiedig Conwy, rhaglen sy’n cydnabod busnesau sydd wedi cynnwys Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Conwy fel rhan o’u prosesau sefydlu staff. Mae hyn yn sicrhau bod timau rheng flaen yn meddu ar wybodaeth a hyder i roi croeso cynnes i ymwelwyr.
Mae dau ddeg pump o fusnesau bellach wedi cyrraedd statws yr ardystiad, gyda llawer yn ymuno â’r digwyddiad i dderbyn eu tystysgrifau gan y Cyng. Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu.
Gan fyfyrio ar y cyflawniadau, meddai’r Cyng. Doleman: “Nid ar hap a damwain y digwydd profiadau o’r ansawdd gorau, maen nhw’n cael eu creu gan bobl fedrus a busnesau brwdfrydig sy’n cydweithio. Mae’r tywyswyr newydd gymhwyso a’r busnesau sydd wedi cael ardystiad llysgennad wir yn adlewyrchu ysbryd Conwy, a dw i’n falch iawn o’u cyflawniadau.
“Hoffaf ddiolch i’r holl bartneriaid, busnesau a chyfranogwyr am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu profiadau gwych ar draws economi ymwelwyr bywiog Conwy.”
Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn gyfres o gyrsiau ar-lein sydd yn eich cyflwyno i wahanol ardaloedd ac atyniadau Cymru. Gallwch wella’ch gwybodaeth am Gymru a helpu eraill i wneud y gorau o’u hymweliad. Llysgennad Cymru – Cynllun Llysgenhadon Cymru
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus
Lluniau:
- James Kendall gyda Cllr Sharon Doleman
- Paul Williams gyda Cllr Sharon Doleman
- Tywyswyr Bathodyn Gwyn Llandudno gyda’r Arglwydd Mostyn
Wedi ei bostio ar 06/03/2026