Cyngor Conwy yn dathlu cyflogaeth gynhwysol yn nigwyddiad 'Gwaith a Gwên'

Gwaith a Gwên
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithio gydag IMPACT (Improving Adult Care Together) ac yn ddiweddar buont yn cydweithio i gynnal digwyddiad Jobs and Joy a oedd yn canolbwyntio ar gryfhau cyflogaeth gynhwysol ar draws y sir.
Roedd y sesiwn, ym Mhlanhigfa a Chaffi Bryn Euryn yn dod â phobl â phrofiad o anableddau dysgu at ei gilydd, a buont yn rhannu eu syniadau a’u profiadau i helpu i ffurfio sut mae’r Cyngor yn cefnogi pobl i mewn i waith ystyrlon.
Cymerodd bawb ran mewn gweithgareddau hamddenol a hygyrch a oedd yn canolbwyntio ar gryfderau a’r hyn sy’n dod â gwên - beth mae pobl yn mwynhau ei wneud, beth maen nhw’n dda am ei wneud, a’r pethau all ei gwneud yn anoddach dod o hyd i waith. Bydd eu syniadau a’u hawgrymiadau yn chwarae rôl bwysig wrth wneud prosesau swyddi’r Cyngor yn haws i’w llywio ac yn fwy croesawgar i bawb.
Bu’r cyfranogwyr yn siarad yn agored am yr hyn sy’n helpu pobl i ffynnu yn y gweithle, yn ogystal â’r heriau a all wneud i waith deimlo’n anodd ar brydiau. Roedd y sgyrsiau onest hyn yn cynnig mewnwelediad i realiti canfod a chadw gwaith am dâl.
Meddai’r Cynghorydd Hannah Fleet, Aelod Cabinet Gwasanaethau Oedolion Integredig ac Adnoddau Dynol: “Rydym yn ymrwymedig i fod yn gyflogwr mwy cynhwysol ac ehangu mynediad at gyfleoedd ystyrlon am dâl. Mae digwyddiadau fel Gwaith a Gwên mor werthfawr - maen nhw’n ein helpu i ddeall profiadau pobl a sicrhau bod ein dull yn adlewyrchu eu hanghenion, eu cryfderau a’u dyheadau.”
Bydd y mewnwelediad a gafwyd o’r digwyddiad, a gwaith parhaus IMPACT gyda chyfranogwyr yn parhau i arwain a chryfhau llwybrau cyflogaeth cynhwysol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Dolenni:
Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
IMPACT - UK Centre to Improve Adult Social Care - IMPACT
Wedi ei bostio ar 10/02/2026