Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Planhigfa a Chaffi Bryn Euryn


Summary (optional)
Dewch am dro i’r ganolfan arddio, siop a chaffi yn Llandrillo-yn-Rhos.
start content

Gwybodaeth am Blanhigfa Bryn Euryn - fersiwn hawdd ei darllen

Mae Gwasanaeth Anableddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gyhoeddi agoriad Planhigfa Bryn Euryn ar ei newydd wedd. Ar ôl cau ar gyfer ei ailddatblygu, rydym bellach ar agor i’r cyhoedd. Dewch i ymweld â’r ganolfan arddio a’r siop, neu am baned o de a thamaid blasus yn y caffi.


Mae’r ganolfan arddio, y siop a’r caffi yn fenter wych sy’n cynnig gwasanaeth mentora cyflogaeth i bobl ag anableddau sydd am gael swydd gyflogedig.



Rydym yn falch o gael arwain newid cadarnhaol i bobl ag anableddau sydd am ddechrau eu gyrfaoedd, gan sicrhau hefyd bod ein cwsmeriaid yn cael profiad siopa o’r safon uchaf.

Byddwn yn arddangos y gorau o’n cynnyrch cartref a chynnyrch lleol, gan gynnwys eitemau gan ddetholiad o ddarparwyr a busnesau o’r ardal gyfagos. Mae’r caffi'n cael ei redeg gan ein hasiantaeth bartner, Hft.

 

Bryn Euryn LogoPlanhigfa a Chaffi Bryn Euryn
Dinerth Road
Llandrillo-yn-Rhos
LL28 4YN

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9:30am a 4pm ac ar ddydd Sul rhwng 10am a 4pm

Edrychwn ymlaen at eich croesawu!

Dilynwch ni ar Instagram
Funded by UK GovernmentMae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
end content