Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwella Gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig i amddiffyn Mannau Agored a mynd i'r afael â Throseddau Amgylcheddol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwella Gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig i amddiffyn Mannau Agored a mynd i'r afael â Throseddau Amgylcheddol


Summary (optional)
start content

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwella Gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig i amddiffyn Mannau Agored a mynd i'r afael â Throseddau Amgylcheddol

CCTV Control Room 1

Ystafell reoli TCC

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn falch o gyhoeddi ei fod yn lansio menter newydd sydd wedi’i anelu at wella’r gwaith o reoli mannau agored a mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol drwy wella gwasanaethau Teledu Cylch Caeëdig (TCC).

Wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r prosiect wedi lleoli cyfres o gamerâu TCC symudol mewn sawl lleoliad yn y Sir i atal tipio anghyfreithlon, fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae’r fenter, o’r enw “Rheoli Mannau Agored yn Well, Addysgu a Diogelu’r Amgylchedd drwy wella’r gwasanaeth TCC”, hefyd wedi recriwtio staff ymroddedig i fonitro’r fideos ac ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau drwy addysg a gorfodaeth.

“Rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu cael y cyllid yma i’n galluogi i fynd i’r afael â’r materion sydd yn ganolog i’n cymunedau, meddai’r Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio. “Mae’r tîm hefyd yn defnyddio’r amser i ganolbwyntio ar hybu elfennau masnachol o’r Gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig er mwyn ei ddiogelu yn y dyfodol.”

Mae lleoli’r camerâu symudol eisoes wedi dangos canlyniadau addawol, gyda gostyngiad sylweddol mewn achosion o dipio anghyfreithlon mewn safleoedd a gafodd eu monitro. Fe fydd y cyllid blwyddyn bontio yn galluogi’r Cyngor i gynnal momentwm drwy gefnogi gweithwyr TCC presennol ac ehangu’r tîm er mwyn sicrhau darpariaeth lawn a’r effaith fwyaf.

Yn ogystal â gorfodaeth, mae’r fenter yn gosod pwyslais cryf ar addysg ac ymgysylltu â’r gymuned. Bydd Swyddogion Gorfodi Gwarchod y Cyhoedd yn parhau i ymchwilio i droseddau amgylcheddol a chynnal isadeiledd y camerâu, gan sicrhau cynaliadwyedd a diogelwch y cyhoedd yn yr hirdymor.

Wedi ei bostio ar 25/11/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content