Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Arddangosfa Swyddi


Summary (optional)
start content

Arddangosfa Swyddi

HEIDIODD dros fil o bobl i un o’r arddangosfeydd cyflogaeth fwyaf a welodd Gogledd Cymru erioed

Daeth trydedd Arddangosfa Swyddi flynyddol Conwy (22/02/24) â dros 1,100 o fynychwyr a dros 90 o sefydliadau blaenllaw at ei gilydd  yn The Barn, Canolfan Ddigwyddiadau Eirias, Bae Colwyn.

Wedi’i threfnu gan Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy (rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) ac wedi’i chefnogi gan Gymru’n Gweithio, Creu Menter a Chymorth Busnesau Conwy, roedd llwyddiant yr arddangosfa y tu hwnt i bob disgwyl, gan roi’r sbotolau ar gyfleoedd gyrfa a dod o hyd i swyddi parhaol a dros dro i lawer iawn o ymgeiswyr.

Ymysg y  cwmnïau a’r sefydliadau a oedd yn bresennol roedd Parc Fferm Manorafon, Heddlu Gogledd Cymru, Pier Llandudno, Canolfan Yrfaoedd y Fyddin Brydeinig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Thorncliffe Building Supplies, HB Leisure, Carchar Berwyn, Zip World, Dŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Evadx Ltd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yr RAF a llawer mwy.

Dywedodd Libby Duo, Rheolwr Strategol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy:  “Roeddem yn disgwyl cynnydd mewn niferoedd eleni o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol yng ngoleuni’r hinsawdd economaidd bresennol a’r galw am weithwyr yn yr ardal hon, ond roedd y nifer a ddaeth i’r arddangosfa’n anhygoel.

“Rydym wedi cael adborth cadarnhaol yn enwedig oherwydd bod gan lawer o’r cwmnïau swyddi gwag ac wedi gallu rhoi cyfweliad cychwynnol i ymgeiswyr, a oedd yn wych o’r ddwy ochr.

“Roedd y gweithdai a gynhaliwyd yng Nghanolfan Byd Gwaith cyn yr arddangosfa yn amhrisiadwy o ran helpu i baratoi pobl oedd yn chwilio am swyddi ar gyfer y digwyddiad pwysig hwn,  gan roi cyngor defnyddiol  iddynt ar sut i sefyll allan i’r arddangoswyr a sut i gynyddu eu siawns o ddod o hyd i’w swydd ddelfrydol,  a manteisiodd llawer hefyd ar y cymorth un i un dilynol gyda llunio CV a llenwi ceisiadau am swyddi, felly mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno eto yn y dyfodol.

“Diolch yn fawr iawn i bawb ddaeth draw ar y diwrnod, yn arbennig yr arddangoswyr a ddangosodd y gyrfaoedd anhygoel sydd ar gael ar ein stepen drws”.

Ychwanegodd Jane Cook, Rheolwr Cyflogaeth a Phartneriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer Conwy: “Yr hyn sy’n gwneud Arddangosfa Swyddi Conwy mor arbennig yw’r cyfleoedd go iawn sydd allan yna, a’r llwyfan y mae’r arddangosfa’n ei rhoi i ddarpar ymgeiswyr ddarganfod nifer fawr o wahanol sectorau a thrafod addasrwydd y gyrfaoedd gyda’r cyflogwyr eu hunain

Roedd y canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain, o ran nifer y bobl a fynychodd a’r cysylltiadau llwyddiannus a adeiladwyd rhwng y rhai oedd recriwtio, yr addysgwyr a’r sefydliadau sector preifat a chyhoeddus.

“Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i bawb ddaeth draw i’r digwyddiad eleni, roedd yn ddiwrnod ffantastig”.

Ewch i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gael rhagor o wybodaeth am  y Canolbwynt.

 

Wedi ei bostio ar 05/03/2024

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content