Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hwb Cyflogaeth Conwy - Mwy o wybodaeth


Summary (optional)
Finding what works for you
start content

Cofrestrwch nawr i dderbyn cefnogaeth am ddim gan Hwb Cyflogaeth Conwy



Y ddolen uchod yw ein ffurflen gysylltu. Os byddwch angen rhannu gwybodaeth sensitif, ffoniwch ni ar 01492 575578.


Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ‘siop bob peth’ dan arweiniad y gymuned ar gyfer cyflogadwyedd yng Nghonwy.

Os ydych chi:

  • Mewn swydd nad yw’n cynnig digon o oriau
  • Yn dyheu am wneud rhywbeth gwahanol ond bod rhywbeth yn eich rhwystro
  • Yn ddi-waith
  • Yn wynebu colli’ch swydd

Rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i waith sy’n addas i chi drwy gynnig:

  • Ymgynghorwyr a mentoriaid cyflogaeth penodol sy’n cynnig cyngor am waith, swyddi a budd-daliadau
  • Mentora personol un-i-un, wedi’i addasu i’r unigolyn
  • Cyrsiau am ddim gan hyfforddwyr proffesiynol i feithrin sgiliau
  • Cymorth i ysgrifennu CV, llenwi ffurflenni cais am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau
  • Cefnogaeth ariannol i oresgyn rhwystrau rhag hyfforddiant a gwaith:
    Benthyg cyfrifiaduron Chromebook a donglau wifi, costau teithio, dogfennau adnabod, gofal plant
  • Ymgysylltu â’r Gymuned a Chyflogwyr:
    digwyddiadau, ymgyrchoedd recriwtio, cyfleoedd gwaith, lleoliadau gwaith a chyrsiau ar lwybrau gyrfa
  • Cefnogaeth yn y gwaith am hyd at fis wedi i bobl ddechrau gweithio
  • Atgyfeirio at asiantaethau neu bartneriaid eraill lle bo hynny’n briodol.

Fe wnawn ein gorau glas i’ch helpu chi ac mae gennym fynediad at rwydwaith o gyflogwyr sydd eisiau recriwtio ar bob lefel.

Angen cymorth gennym?

 

RHAGLENNI CYFLOGADWYEDD LLYWODRAETH CYMRU

Mae Canolbwynt Cyflogaeth Conwy’n gweithredu’r rhaglenni canlynol ar ran Llywodraeth Cymru:

Cymunedau am Waith

Un o raglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith ac fe’i hariennir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.  Mae’n rhaglen gwbl wirfoddol sy’n darparu cymorth mentora dwys er mwyn helpu pobl i fagu hyder a sgiliau yn ogystal â dod o hyd i waith a’i gadw.  Mae’n gweithio â thri o grwpiau penodol:

  • Pobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir ac sy’n 25 oed a hŷn
  • Pobl economaidd anweithgar 25 oed a hŷn
  • Pobl ifanc rhwng 16-24 oed sydd ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant.

Mae Cymunedau am Waith yn rhaglen sy’n seiliedig ar godau post a weithredir mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau, a bwriedir iddi ddod i ben ym mis Mawrth 2023.

Cymunedau am Waith a Mwy

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen gyflogadwyedd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n ategu Cymunedau am Waith ac yn gweithio mewn ffordd debyg wrth ddarparu cymorth mentora dwys i helpu pobl i fagu hyder a sgiliau a dod o hyd i waith a’i gadw.  Y gwahaniaeth yw bod y rhaglen hon yn helpu pobl sydd mewn tlodi neu mewn perygl o fod, a chynigir y gwasanaeth ledled y sir.

PaCE

Mae PaCE yn rhaglen sy’n helpu rhieni sy’n cael eu hatal rhag hyfforddi neu weithio oherwydd costau gofal plant.  Mae’n helpu i ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn y rhwystrau a’u hariannu, fel y gall rhieni/gwarcheidwaid baratoi ar gyfer cyfleoedd am waith a chael gafael arnynt. 

Prosiect Cynnydd

Mae’r Canolbwynt hefyd yn hyrwyddo a gweithio â’r cynllun Cynnydd sydd wedi’i ariannu gan Wasanaeth Ieuenctid Conwy.  Rhaglen wirfoddol yw hon ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd mewn perygl o fod ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant, ac er ei bod yn debyg i raglen Cymunedau am Waith Llywodraeth Cymru, y nod yw gweithio â’r bobl ifanc hynny sydd anoddaf eu cyrraedd a darparu’r cyngor, gofal a chymorth gorau posib er mwyn iddynt greu gwell dyfodol beth bynnag y maent yn ei wynebu.

CfW footerESF logo

end content