Lansio Llwybr Bwyd Môr Conwy

Llwybr Bwyd Môr
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwahodd preswylwyr ac ymwelwyr i ddathlu lansiad Llwybr Bwyd Môr newydd Conwy mewn digwyddiad arbennig ddydd Sadwrn 12 Medi 2026 rhwng 12-5pm ar Gei Conwy.
Dyluniwyd y llwybr yn defnyddio model Llwybr Bwyd Môr Gwynedd. Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, mae’n ffurfio rhan o fenter ehangach Llwybr Bwyd Môr Cymru, gan gysylltu ymwelwyr gyda’r bobl, y lleoedd a’r cynnyrch sy’n gwneud diwydiant bwyd môr Gogledd Cymru yn un unigryw.
Roedd y prosiect yn bosib trwy dderbyn £79,500 gan Gronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol 2025-2027 CGGC, Llywodraeth Cymru, a gafodd ei sicrhau i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r môr a chefnogi cymunedau arfordirol trwy addysg, twristiaeth a chydweithio.
Bydd y lansiad yn arddangos amrywiaeth o weithgareddau sy’n dathlu cynnyrch lleol a threftadaeth bwyd môr cyfoethog Conwy. Gall ymwelwyr fwynhau arddangosiadau coginio byw gan gogyddion enwog lleol, yn cynnwys Bryn Williams, ochr yn ochr ag arddangosiad o sut i agor cregyn wystrys, dosbarth meistr sushi a cherddoriaeth fyw gan y ffefrynnau lleol, y Conwy Seadogs.
Bydd amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau lleol hefyd yn cymryd rhan, yn cynnwys Tŷ a Môr, Art by CD, Sweet Snowdonia, y Prosiect Wystrys Gwyllt, Trancio, Snac Hapus, Hanes Conwy, Festival Seafoods a Chadetiaid Môr Conwy. Cynhelir stondinau gwybodaeth gan Lwybr Bwyd Môr Cymru, Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, Tîm Llwybr yr Arfordir Cyfoeth Naturiol Cymru a Dewch i Gonwy.
Yn ychwanegol at y prif ddigwyddiad, bydd gan ymwelwyr y cyfle i fynd ar daith o amgylch Conwy Mussels a chwrdd â’r criw yng Ngorsaf Achub Bywydau yr RNLI, gan ddarparu mewnwelediad unigryw i ddiwydiannau morol a threftadaeth arfordirol yr ardal.
Meddai’r Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Mae Llwybr Bwyd Môr Conwy yn dathlu’r bobl, y busnesau a’r traddodiadau sy’n gwneud ein morlin yn un mor arbennig. Mae’n arddangos ein cynhyrchwyr, ein bwytai a’n cyflenwyr bwyd môr yn ogystal â chymunedau arfordirol, gan annog ymwelwyr i archwilio’r sir, gan gefnogi’r economi leol a thynnu sylw at y rôl bwysig y mae bwyd môr yn ei chwarae yn niwylliant a threftadaeth Conwy.”
Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn rhoi’r cyfle i chi ddarganfod y llwybr newydd, samplo bwyd môr lleol a chwrdd â’r busnesau, y cynhyrchwyr a’r grwpiau cymunedol sy’n helpu i siapio hunaniaeth arfordirol unigryw Conwy. Er bod mynediad am ddim, bydd cyfle hefyd i ymwelwyr fynd i bysgota am awr a hanner ar Daith Flasu gyda Theithiau Cychod Conwy, a fydd yn cychwyn am naill ai 10.15am neu 12.00pm. Mae lleoedd ar gael am bris â chymhorthdal mawr, diolch i gefnogaeth ariannol gan CGGC. Gallwch archebu eich lle ar gyfer y teithiau pysgota yn https://www.ticketsource.com/visit-conwy/e-ljkeed
Am fwy o wybodaeth am Lwybr Bwyd Môr Conwy, ewch i seafoodtrail.cymru ac ewch i dewchigonwy.org.uk
Wedi ei bostio ar 09/09/2026