Aelodau Cyngor Ieuenctid Conwy yn rhannu eu profiadau

Aelodau Cyngor Ieuenctid Conwy, Callum Morrissey ac Imogen Griffiths, yn Ysgol Clywedog
Yn ddiweddar, bu i Gadeirydd ac Ysgrifennydd Cyngor Ieuenctid Conwy ymweld ag Ysgol Clywedog yn Wrecsam i’w helpu a’u cefnogi gyda datblygu eu cyngor ysgol.
Roedd y cydweithrediad hwn yn ffordd wych o rannu arferion gorau; gan ddangos i’r arweinwyr-myfyrwyr sut y gallant ddatblygu sgiliau gwaith tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu effeithiol i gynyddu darpariaeth ac allbwn eu cyngor ysgol.
Nod Cyngor Ieuenctid Conwy, sydd ag aelodau rhwng 11 a 18 mlwydd oed, yw helpu i wneud yn siŵr fod gan bob person ifanc lais. Bu arweinwyr-myfyrwyr o Ysgol Clywedog ac aelodau Cyngor Ieuenctid Conwy yn archwilio pynciau megis strwythur, fframwaith, gwerthoedd a sut i greu darpariaeth effeithiol o gamau gweithredu arfaethedig.
Prif nod cydweithio yw gwella cyfranogiad ieuenctid, cynyddu nifer yr arweinwyr myfyrwyr yng nghyngor yr ysgol, a chryfhau lleisiau pobl ifanc yn gyffredinol.
Mae Erthygl 12, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi y dylid gwrando a gweithredu ar farn pobl ifanc. Mae Cyngor Ieuenctid Conwy yn awyddus i weld pob cyngor ysgol yn dilyn strwythur cyson er mwyn caniatáu i bob person ifanc deimlo fel eu bod yn cael eu clywed, eu parchu a’u gwerthfawrogi.
Bu’r grwpiau hefyd yn gweithio gyda ‘Mind Our Future’, elusen iechyd meddwl i bobl ifanc a ariennir gan Gronfa Gymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n anelu i helpu pobl ifanc gyda’u hiechyd a lles emosiynol a’u grymuso i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed gan ddarparwyr gwasanaethau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
Dywedodd Zac, aelod o Gyngor Ysgol Clywedog: “Daeth Cyngor Ieuenctid Conwy atom i Ysgol Clywedog i gynorthwyo ein cyngor myfyrwyr â’u strwythur, nodau a phrosiectau nesaf ac roedd gennym ddiddordeb mawr yn yr hyn yr oedd ganddynt i’w ddweud. Roedd Cyngor Ieuenctid Conwy o gymorth mawr i’n cyngor myfyrwyr a byddwn yn argymell bod ysgolion eraill yn gwneud yr un fath â ni ac yn cysylltu â Chyngor Ieuenctid Conwy os ydynt yn cael trafferth ag unrhyw beth.”
Mae Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy ar gyfer pobl ifanc 11–24 oed sy’n byw yn Sir Conwy. Mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau yn cynnwys clybiau ieuenctid a gweithgareddau, cyfleoedd i wneud Gwobr Dug Caeredin, cymorth i gael gwaith a chyngor am les.
Mae’r gwasanaethau ieuenctid yn ceisio cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw bontio i fod yn oedolion, gan eu helpu i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau, trwy weithgareddau a pherthnasoedd cadarnhaol.
Gwasanaeth Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 24/07/2025