Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn wasanaeth 'mynediad agored' ar gyfer yr holl bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy'n byw yn y sir.
Prif ffocws Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yw hwyluso a chefnogi twf pobl ifanc drwy ddibyniaeth i gyd-ddibyniaeth, drwy annog eu haddysg bersonol a chymdeithasol a’u helpu i gymryd rhan gadarnhaol yn natblygiad eu cymunedau a chymdeithas. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy hefyd yn gyfrifol am reoli'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn wasanaeth ar gyfer yr holl bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy'n byw yng Nghonwy. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i'r rhai rhwng 13 ac 19 oed.
Rydym yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o wasanaethau yn y meysydd canlynol:
- Clybiau Ieuenctid a Gweithgareddau
- Gwybodaeth Ieuenctid
- Chwaraeon a Gweithgareddau
- Gwobr Dug Caeredin (DofE)
- Helpu pobl ifanc 16-18 oed gael gwaith
- Gwaith prosiect mewn ysgolion
Mae pobl ifanc yn ymgysylltu â'r gwasanaeth ar sail wirfoddol ac yn adeiladu perthynas o ymddiriedaeth gadarnhaol gyda staff y Gwasanaeth Ieuenctid, ac mae hyn yn ei dro yn helpu'r bobl ifanc i archwilio'r materion sy'n effeithio ar eu bywydau.
Mae'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yn amrywio o glybiau ieuenctid a gwaith stryd i waith ieuenctid ar gerbydau’r gwasanaeth a gwaith prosiect mewn ysgolion. Yn ogystal, mae'r gwasanaeth ieuenctid yn cefnogi’r gwaith o ddarparu Gwobr Dug Caeredin ar draws y sir.
Mae ein prif swyddfa yn:
Adeilad y Llyfrgell
Mostyn Street
Llandudno
LL30 2RP
Ewch i’n tudalen Facebook
Edrychwch ar ein hamserlen gyda sesiynau chwaraeon a dosbarthiadau ffitrwydd