Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Conwy Youth, Engagement and Belonging Service Recognised in Europe-Wide FEANTSA Good Practice Guide

Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy yn cael ei Gydnabod yng Nghanllaw Arfer Da FEANTSA ar draws Ewrop


Summary (optional)
start content

Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Conwy yn cael ei Gydnabod yng Nghanllaw Arfer Da FEANTSA ar draws Ewrop

FEANTSA

FEANTSA (Ffederasiwn Ewropeaidd Sefydliadau Cenedlaethol sy’n Gweithio gyda’r Digartref)

Mae Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ei osod yn yr 11 Uchaf yng Nghanllaw Arfer Da FEANTSA am ei ragoriaeth mewn integreiddio gwaith ieuenctid i wasanaethau sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n profi digartrefedd.

Mae FEANTSA (Ffederasiwn Ewropeaidd Sefydliadau Cenedlaethol sy’n Gweithio gyda’r Digartref) yn dod â sefydliadau o bob cwr o Ewrop ynghyd i ddylanwadu ar bolisi, darparu gwasanaethau hanfodol a chydweithio i ddod â digartrefedd i ben. Mae’r ffederasiwn yn hyrwyddo ymchwil, yn cefnogi cyfnewid arfer gorau ymhlith sefydliadau sy’n aelodau ac yn gweithio gyda llywodraethau i ddatblygu strategaethau effeithiol i atal a mynd i’r afael â digartrefedd.

Mae cael cydnabyddiaeth yng Nghanllaw Arfer Da FEANTSA yn adlewyrchu ymagwedd arloesol ac effeithiol tîm Conwy a’u cyfraniad at ddysg o ran atal digartrefedd a chefnogi ieuenctid ar draws Ewrop.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Addysg Conwy: “Mae’r ffaith fod Conwy wedi ei gydnabod ar lefel Ewropeaidd yn gamp ragorol ac mae’n brawf o’r creadigrwydd, ymrwymiad a’r cydweithio ar draws y tîm cyfan sy’n gweithio’n ddiflino i gefnogi a grymuso pobl ifanc ar draws ein sir.”

Rydym yn falch o gyfrannu at ymdrech ar draws Ewrop i wella cefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref.”


Adroddiad FEANTSA – Ionawr 2026: 11-Good-Practices-on-the-Integration-of-Youth-Work-in-Services-for-Youth-Homelessness.pdf

Wedi ei bostio ar 19/02/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content