Cynghorwyr am drafod yr Ardoll Ymwelwyr

Ardoll Ymwelwyr
Mae’r Ardoll Ymwelwyr yn un o’r eitemau ar y rhaglen i Gynghorwyr Conwy eu trafod y mis hwn.
Cyflwynir yr ymatebion i’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ddechrau’r haf i Bwyllgor Craffu’r Economi a Lle ar 9 Medi ac yna’r Cyngor Llawn ar 24 Medi.
Bydd yr adroddiad yn cynnwys asesiadau a data ynghyd â’r argymhelliad bod y Cynghorwyr yn cytuno i beidio â chyflwyno Ardoll Ymwelwyr nes bod mwy o dystiolaeth a phrofiadau i fedru penderfynu.
Meddai’r Cynghorydd Sharon Doleman, Aelod Cabinet Economi Gynaliadwy a Chyfathrebu: “Mae diddordeb mawr yn yr Ardoll Ymwelwyr gan fod twristiaeth yn aruthrol o bwysig i’r economi a chymunedau yng Nghonwy. Bydd Cynghorwyr yn cael cyfle i ystyried yr adroddiad, y dystiolaeth a’r argymhelliad cyn dod i benderfyniad.”
Darllenwch yr adroddiad a gwyliwch y cyfarfod yma:
Dolen i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle: Rhaglen Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle ddydd Mercher, 9 Medi 2026
Dolen i’r Cyngor: Rhaglen y Cyngor ddydd Iau, 24 Medi 2026
Cefndir:
Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Cymeradwyodd Senedd Cymru’r Bil ar 8 Gorffennaf 2025 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 18 Medi 2025.
Mae’r Bil yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr.
Mae cynnal ymgynghoriad yn rhan o'r broses a rhaid gwneud hynny cyn gofyn i Gynghorwyr benderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ai peidio.
Yng Nghonwy, cynhaliwyd yr ymgynghoriad am ychydig dros wyth o wythnosau, rhwng 20/05/26 a 17/07/26.
Wedi ei bostio ar 02/09/2026