Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cynghorwyr am drafod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn

Cynghorwyr am drafod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn


Summary (optional)
start content

Cynghorwyr am drafod y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn

Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn

Mae Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn yn un o’r eitemau ar y rhaglen i Gynghorwyr Conwy eu trafod y mis hwn.

Cyflwynir yr ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd dros yr haf i Bwyllgor Craffu’r Economi a Lle ar 15 Hydref ac yna’r Cabinet ar 20 Hydref.

Mae’r adroddiad yn argymell ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn am dair blynedd, gan wneud y newidiadau canlynol:

  • Cyflwyno parth gwahardd cŵn tymhorol mewn ardal gyfyngedig o’r traeth newydd o flaen Promenâd Cayley rhwng Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos. Mae'r cynnig hwn wedi'i ddiwygio o fod yn gyfyngiad drwy gydol y flwyddyn i gyfyngiad tymhorol, yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
  • Dynodi ardaloedd penodol o’r Oval a Maes Hamdden Ffordd Maesdu fel ardaloedd ymarfer cŵn, yn unol â chais Cyngor Tref Llandudno.
  • Gwahardd cŵn ar Gae Chwarae a Hamdden Betws-yn-Rhos, yn unol â chais Cymdeithas Chwaraeon Betws-yn-Rhos

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Price, Aelod Cabinet Tai, Rheoleiddio ac Archwilio, “Mae cŵn yn baeddu yn broblem y mae Cynghorwyr yn clywed amdani’n yn rheolaidd gan breswylwyr.

“Bwriad Gorchmynion Rheoli Cŵn yw cael cydbwysedd teg, gan roi rhyddid i berchnogion cŵn fwynhau mannau cyhoeddus gyda’u hanifeiliaid anwes, gan sicrhau y gall pawb ddefnyddio’r lleoedd hynny yn ddiogel ac yn gyfforddus.

“Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol, ond nod y mesurau hyn yw mynd i’r afael â’r nifer bach sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu, crwydro neu beidio â bod dan reolaeth mewn mannau cyhoeddus.”

Darllenwch yr adroddiad a gwyliwch y cyfarfod ar-lein yma:

Dolen i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a Lle Dydd Iau 15 Hydref 2026, 5.30 pm

Dolen i’r Cabinet: Democratiaeth Lleol Conwy : Agenda ar gyfer Y Cabinet Dydd Mawrth 20 Hydref 2026, 2.00 pm

Mae croeso i’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ond sylwer mai hyn a hyn o le sydd yn y Siambr.

 

Cefndir: 
Mae’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Rheoli Cŵn presennol ar waith tan fis Hydref 2026, pan ddaw’r Gorchymyn drafft newydd arfaethedig i rym.  

Mae’r Gorchymyn presennol yn cynnwys: 

•             Ardaloedd Gwahardd Cŵn (e.e. traethau, caeau chwarae) 
•             Baw Cŵn a dull i’w godi 
•             Cŵn ar Dennyn 
•             Cŵn ar Dennyn trwy gyfarwyddyd swyddog awdurdodedig

Fel rhan o’i adolygiad o’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, gofynnir i’r cyhoedd gyflwyno eu barn ynglŷn â’r Gorchymyn presennol a’r newidiadau arfaethedig. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 14/08/26 a 11/09/26.

Wedi ei bostio ar 09/10/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content