Arddangos Creadigaethau'r Prosiect Hyder yn Dy Hun

Canolbwyntiodd y gweithgareddau hyn ar feithrin hyder mewn rhifedd trwy gelf geometrig
Caiff creadigaethau cyfres o weithdai tecstilau eu harddangos yn swyddfa Coed Pella Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae ’chydig dros ugain darn i’w gweld.
Fel rhan o Hyder yn Dy Hun – menter a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) dan ofal Canolbwynt Cyflogaeth Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – cymerodd grŵp o gyfranogwyr ran mewn cyfres o weithdai creadigol dan arweiniad yr artist tecstilau enwog Cefyn Burgess. Canolbwyntiodd y gweithgareddau hyn ar feithrin hyder mewn rhifedd trwy gelf geometrig, gan annog dysgu ymarferol mewn amgylchedd cefnogol a dychmygus.
Eglurodd Libby Duo, Rheolwr Strategol Gwasanaeth Cyflogaeth Conwy: “Mae Hyder yn Dy Hun yn brosiect cefnogi ymarferol a gynlluniwyd ar gyfer unigolion sydd â chyflyrau iechyd cymhleth ac sydd â rhwystrau at gyflogaeth. Mae'n cyfuno gweithgarwch corfforol, cefnogaeth llesiant, datblygu sgiliau a sesiynau sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd i wella hyder, lles a pharodrwydd cyfranogwyr ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol .”
Roedd y sesiynau creadigol gyda Cefyn yn rhan o’r dull holistaidd hwn, gan gynnig ffordd ffres a chyffrous o gryfhau sgiliau rhifedd.
Drwy waith gwlân ffelt a chelf seiliedig ar decstilau, bu’r cyfranogwyr yn archwilio egwyddorion mathemategol patrymau geometrig, gan gynnwys cymesuredd, onglau, mesuriadau a dilyniannau. Gan weithio ochr yn ochr â Cefyn, enillasant fewnwelediad i’r ffordd mae’r cysyniadau hyn yn dylanwadu ar ddylunio celfyddydol ac adeiladu tecstilau. Anogwyd y cyfranogwyr i ailystyried eu perthynas â mathemateg drwy ei chymhwyso mewn cyd-destun ymarferol, gweledol a chyfoethog o ran diwylliant.
Archwiliodd y gweithdai hefyd y cysylltiadau diwylliannol diddorol rhwng Cymru a Shillong yn India – rhanbarth sydd â hanes o gysylltiad drwy ddylanwad cenhadon Cymreig. Myfyriodd y cyfranogwyr ar yr hanesion cyffredin hyn ac ennill gwybodaeth am barhad crefftau tecstilau ymhlith menywod Cymraeg eu hiaith yn y gymuned Khasi yn Shillong.
Ychwanegodd Libby: “Roedd y prosiect yn enghraifft o ymrwymiad Hyder yn Dy Hun i gefnogaeth arloesol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn – gan alluogi pobl i ail-ddarganfod eu sgiliau, magu hyder, a chymryd camau cadarnhaol tuag at lesiant gwell a chyfleoedd yn y dyfodol.”
Bydd yr arddangosfa i’w gweld tan ddydd Gwener, 29 Awst.
Ariennir y prosiect hwn yn llawn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. I gael gwybod mwy am gyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ewch i: Cyllid Llywodraeth y DU - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gwybodaeth am Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy: Canolbwynt Cyflogaeth Conwy – Rhagor o Wybodaeth – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Wedi ei bostio ar 31/07/2025