Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Arddangos baneri ar Seilwaith Cyhoeddus

Arddangos baneri ar Seilwaith Cyhoeddus


Summary (optional)
start content

Arddangos baneri ar Seilwaith Cyhoeddus

Conwy CBC Logo RGB

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i greu cymuned groesawgar a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi. 

Rydym yn cydnabod y gall baneri fod yn symbolau pwerus o falchder dinesig ac o berthyn. 

Fodd bynnag, dros yr wythnosau diwethaf, mae yna lawer o drafodaeth wedi bod am arddangos baneri mewn mannau cyhoeddus. Rydym yn cydnabod bod hyn yn fater sensitif a bod gan bobl farn ac emosiynau gwahanol amdano.

Mae croeso i breswylwyr arddangos baneri ar eu tir preifat eu hunain. Serch hynny, rydym yn atgoffa pawb yn garedig na chaniateir gosod eitemau, megis baneri, arwyddion neu lumanau ar bolion lampau a strwythurau eraill ar y briffordd heb ganiatâd ymlaen llaw.

Pan fydd unigolyn neu sefydliad yn dymuno arddangos eitemau ar strwythurau cyhoeddus, mae’n rhaid iddynt gael caniatâd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gyntaf. Mae’r broses hon yn sicrhau bod gosodiadau yn ddiogel, yn cael eu cynnal yn iawn, ac yn cael eu tynnu mewn modd amserol. Mae hefyd angen tystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a manylion cysylltu ar gyfer materion brys. Rydym ni’n ymgynghori gydag aelodau etholedig a Chynghorau Tref a Chymuned cyn rhoi unrhyw ganiatâd.

 

Ydi’r Cyngor yn gwybod bod rhywun wedi gosod baneri ar bolion lampau? 
Ydi, rydym wedi cael adroddiadau o eitemau ar bolion lampau.

Ydych chi’n mynd i gael gwared arnynt? 
Ydym, byddwn yn tynnu marciau, baneri, arwyddion a llumanau sydd wedi’u gosod heb ganiatâd.

Pam? 
Mae marciau, baneri, arwyddion neu lumanau heb awdurdod ar y briffordd, neu ar strwythurau’r briffordd yn anghyfreithlon, a gallant beri risg diogelwch i’r rhai sy’n eu gosod ac i ddefnyddwyr y ffordd. 

Pryd? 
Fe fydd y gwaith o gael gwared arnynt yn cael eu cynllunio’n ofalus i leihau aflonyddwch a rheoli costau’n effeithiol.

Mae hi’n bwysig nodi bod y gwaith yma’n golygu cost i’r trethdalwr - adnoddau a allai gefnogi gwasanaethau hollbwysig fel arall.

Wedi ei bostio ar 15/09/2025

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content