Canolbwyntio ar Ofalwyr Conwy yn ystod Wythnos Gofalwyr 8 - 14 Mehefin 2026

Wythnos Gofawyr 2026
Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle i gydnabod cyfraniad gofalwyr di-dâl Conwy dros y flwyddyn a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt.
Mae’r tîm gofalwyr yn gwahodd gofalwyr i sesiynau galw heibio yng Nghoed Pella, Bae Colwyn ar 10 ac 11 Mehefin rhwng 11:30am a 1:30pm. Bydd cyfle i sgwrsio â staff a darganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael, p’un a ydych yn gofalu am oedolyn neu blentyn, neu’n ofalwr ifanc.
Mae ystod eang o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor yn ymwneud ag Wythnos Gofalwyr yn Wythnos Gofalwyr - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gyfer gofalwyr ar wefan y Cyngor: tudalennau we gofalwyr.
Neu, gallwch gysylltu â’r tîm Lles Cymunedol ar 01492 577449 neu ebostiwch Arosyniach@conwy.gov.uk
Wedi ei bostio ar 08/06/2026