Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle i ddathlu cyfraniad gofalwyr di-dâl Conwy dros y flwyddyn a sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ymgymryd â’u rolau.
Stondin Wybodaeth Tîm Gofalwyr Conwy
Dewch i’n gweld yng Nghoed Pella rhwng 11:30am ac 1:30pm ar 10 ac 11 Mehefin a sgwrsio efo tîm Gofalwyr Conwy i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl.
Os nad ydych chi’n gallu dod, edrychwch ar dudalennau gwe Gofalwyr i gael gwybodaeth am y timau a’r sefydliadau sy’n gallu helpu unigolion gyda’u rolau gofalu.
Gweithdy Gofalu Amdanoch Chi
Cymerwch amser oddi wrth eich rôl ofalu i ymlacio, dadflino ac ailgysylltu â chi eich hun mewn gofod tawel a chroesawgar. Mae’r gweithdy Gofalu Amdanoch Chi ar gyfer gofalwyr di-dâl sy’n byw yng Nghonwy ac yn cael ei gynnal ddydd Llun 8 Mehefin 2026 o 2pm tan 3:30pm yn Hen Ysgol Llanrhos.
I gadw’ch lle, cysylltwch â’r Tîm Lles Cymunedol ar 01492 577449 neu arosyniach@conwy.gov.uk.
Cymorth i rieni sy’n gofalu
Mae rôl rhieni sy’n ofalwyr yn llawer mwy na’r gwaith magu plant arferol. Gall ein gwefan Rhieni sy’n Ofalwyr eu cyfeirio at ffynonellau cefnogaeth.
Sesiynau galw heibio
Mae Cynnal Gofalwyr yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd ar draws y rhanbarth i ddarparu cyngor a chefnogaeth.
Sesiynau ar-lein
Mae Gofalwyr Cymru yn cynnal sesiynau ar-lein MeTime sawl gwaith y mis, gan ddarparu cyngor ymarferol ar hawliau gofalwyr a’r rôl ofalu, sesiynau lles, clybiau llyfrau a chrefftau, a mwy.
Cefnogaeth i ofalwyr ifanc
Os ydych chi’n cefnogi gofalwyr ifanc dan 14 oed neu oedolion ifanc dan 25 sy’n gofalu, mae Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych yn trefnu grwpiau cefnogi a gweithgareddau ac yn gallu eu helpu nhw i gysylltu â gofalwyr ifanc eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda Credu fel teulu gyda Gofalwr Ifanc, gallwch archebu tocyn dydd am ddim i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Erddig ddydd Sadwrn, 13 Mehefin 2026.