Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Eitemau newyddion Cymeradwyo proses gau ffurfiol ar gyfer dwy ysgol

Cymeradwyo proses gau ffurfiol ar gyfer dwy ysgol


Summary (optional)
start content

Cymeradwyo proses gau ffurfiol ar gyfer dwy ysgol

Dosbarth

Dosbarth

Mae Cabinet Conwy wedi cytuno i symud ymlaen i gam nesaf y broses gau ar gyfer Ysgol Ysbyty Ifan ac Ysgol Betws-y-coed.

O dan God Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru mae yna weithdrefn i’w dilyn wrth ystyried cau ysgolion. Mae’r broses yn dechrau gydag ymgynghoriad ffurfiol, a gynhaliwyd rhwng mis Rhagfyr 2025 a mis Ionawr 2026.

Cyflwynwyd canlyniadau’r ddau ymgynghoriad i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau a’r Cabinet yn gynharach fis hwn. 

Pleidleisiodd y Cabinet dros symud i gam nesaf y broses statudol trwy gyhoeddi Hysbysiadau Statudol ar gyfer y cynnig i gau Ysgol Ysbyty Ifan ac Ysgol Betws-y-coed.

Mae’r Hysbysiadau Statudol wedi cael eu cyhoeddi yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Mae hyn yn nodi cychwyn cyfnod hysbysiad statudol (28 diwrnod) ac yn ystod y cyfnod hwn gellir cyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau.  

Ysgol Betws-y-coed: Cynnig i gau Ysgol Betws y Coed - Hysbysiad Statudol 
Ysgol Ysbyty Ifan: Cynnig i gau Ysgol Ysbyty Ifan - Hysbysiad Statudol

Pan fydd y cyfnod hysbysiad yn dod i ben, bydd pob sylw a wnaed yn cael ei ystyried cyn i Gabinet Conwy wneud penderfyniad terfynol.

 

Cefndir: 
Dolen i’r rhaglen, adroddiadau a’r gweddarllediad: Democratiaeth Leol Conwy: Rhaglen ar gyfer y Cabinet ddydd Mawrth, 9 Mehefin 2026, 2.00 pm

Wedi ei bostio ar 24/06/2026

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content